gan Ar Mada » Mer 16 Rhag 2009 12:26 pm
Yr Athro Gwyn Thomas (y bardd) ar y teledu diwrnod o blaen yn son bod stryd yn Bl.Ffestiniog gyda Saeson yn byw ynddo, roedd cyfaill iddo wedi clywed rhai ohonynt yn siarad a dweud "Yes, there's a good English community here now."
Deallaf bod Cymdeithasau Cymraeg, a diwylliannau / cefndiroedd eraill ar hyd a lled y byd, yn enwedig mewn dinasoedd... (a yyy.... Patagonia!.....) ond y ffordd ma petha mynd yn fama (sef, tref bychan ol-ddiwydiannol yn nghefn gwlad Cymru) yn achos pryder. Be sy'n eu tynnu nhw yma yn y dechra?
Yn Tanygrisiau, mae na Saeson (rhan fwyaf wedi ymddeol) yn ymddangos fel madarch ar hyd y lle. Madarch sy'n obsessed efo trenau bach Rheilffordd Ffestiniog (mae'r lein yn rhedeg drwy TyG). Mae'r lle yn troi mewn i ryw fath o theme park lle mae'r bobl lleol yn 'objects', a'r Rheilffordd yn 'subject'! Mae nhw'n edrych y hurt arnat os ti'n pasio a deud "iawn?". Hefyd, mae gen ti Saeson iau, gyda plant.... yn raddol troi iaith y strydoedd yn fain, a dim ryw ddeud nostalgic / romantic ydi hynny... dim ond y gwir.
Ond ia...be ti fod i neud? Os wyt ti'n trio cyfeillio efo nhw, a cyflwyo'r sefyllfa ddiwylliannol-wleidyddol iddyn nhw ... mae rhai pobl lleol yn dueddol o feddwl dy fod yn fradwr sy'n 'cefnogi Saeson'. Ar y llaw arall... os ti'n dechra deud petha ymosodol fel, "Are you gonna learn the language?", "are you gonna live here permanently or just here to create another holiday home and turn this place into a worse state than it already is?", ti'n cael dy labelu'n hiliol ganddyn nhw. Be ti fod i neud? Dwi'n credu mewn undod bydol, ond eto eisiau cynnal diwylliannau. Rwyf i yn ymwybodol o hynny... ond yn gyffredinol.... tydi Saeson ddim! Anymwybyddiaeth llwyr! Siwr gen i.. mae Saeson yn gallu cymeryd Saesneg yn ganiataol yn Lloegr, ble da ni ddim yn gallu cymeryd y Gymraeg yn ganiatol yn fama (wel... dim 100% o'r amser).
Ar y llaw arall, mae gennyf i lwyth o ffrindiau sydd a rhieni Saesneg sydd wedi llwyr ymdoddi i fywyd Cymraeg. Mae eu rhieni nhw'n siarad chydig o Gymraeg ond Saesneg rhan amla, a fy ffrindiau yn siarad Cymraeg ac yn deall y sefyllfa ddiwylliannol-wleidyddol, ac yn fy nhyb i ....Cymry ydyn nhw erbyn hyn... tydw i ddim yn eu gweld fel 'Saeson', i ddweud y gwir, tydw i ddim yn eu gweld fel Cymru... ffrindiau ydy nhw.
Ar y cyfan, mae gen ti mewnfudwyr ymwybodol, a mewnfudwyr anymwybodol - a rhain sydd angen eu sortio. Mae dyletswydd ar ein gwleidyddion i sortio wbath allan... ond hefyd mae dyletswydd ar lawr gwlad hefyd, beth yn union yw'r dyletswyddau yma?... Byw yn rhydd?? Parhau i gynnal a threfnu digwyddiadau?? Gwaith?? Creu celfyddyd?? Deddfau?? Bod yn gyfeillgar efo Saeson? Awgrymu eu heffaith ar y lle? Bod yn hollol blaen efo nhw??
Rhaid i rywbeth ddigwydd!
O.N. Rywbeth hollol hurt i chi.... Mae bobl drws nesa o Essex, dy nhw mond yna 3 gwaith y flwyddyn a mae ganddyn nhw gi Charles Spaniel. Mae gennym ni gi hefyd. Un diwrnod, nath y ddynes gynnig gwarchod ein ci ni am y dydd ar yr amod ein bod yn dysgu cyfarwyddiadau Saesneg iddo, sef - sit, stay, come here a good boy. 4 cyfarwyddyd! Oedd rhaid i mi ei rhoi yn ei lle! Nes i ddeud.... "wouldn't it be easier for you to learn the 4 commands?" Atebodd hi gan ddweud, "Oh no... I couldn't possibly do that!". Mae gen i uffarn o awydd dysgu'r commands Saesneg i'r ci rwan er mwyn profi iddi hi fod y ci yn llawer doethach na hi!
O.N.N. Mis wedyn, cafodd y Charles Spaniel ei ladd gan Pitbull Terrier lleol! ....... go iawn!
Cimwch?