Mae'n flin da fi, ond rhaid i mi gyfaddef dy fod ti'n iawn ynglŷn â'r rhan fwyaf o'm cydwladwyr, ond diolch byth mae'na enghreifftiau o Saeson sy'n diddori yn yr hen iaith, diwylliant, cymunedau a'r 'pethau'.
Yr ydw i wedi dod ar draws grwpiau sy'n trefnu gwersi a gweithgareddau i ddysgwyr yn Lloegr sef Clwb Clebran Bradford, Clwb Cymraeg ardal y Chilterns, gwersi yn ardal Basingstock, Llundain, Birmingham, Belper. A hefyd ein grŵp ni sef Clych Dysgwyr Cymraeg Derby. Yn Derby mae hanner y grŵp yn Saeson. (Gwelir
http://www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com )
Beth sy wir angen i achub y fro Gymraeg yw Deddf Iaith ddigonol, well darpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru, yr hawl i ddefnyddio'r iaith yng Nghymru mewn pob agwedd o fywyd.
Falla mi ddylai Cymru yn gwneud yr un trefniant sy'n bodoli yn Quebec i fewnfudwyr, hynny yw does dim caniatâd i weithio cyn i ti cwblhau cwrs 6 wythnos yn yr iaith leol (Ffrangeg yn achos Quebec). Rhaid hefyd dwyn perswâd ar y mewnfudwyr i ddysgu'r iaith. Ond sut? Dyma'r broblem. Hir oes i'r Gymraeg!
dil a ddywedodd:ar y cyfan tydi saeson ddim yn mynd i gymrud diddordeb yn ein diwlliant na dysgu'r Gymraeg.
ar y cyfan byse pobl eraill o Ewrop yn cymrud diddordeb mewn diwylliant arall newydd lle bysen yn byw ac yn dysgu'r iaith lleol.
mane ddiffyg hyder yn yr iaith mewn llawer o ardaloedd. ma hynu'n ffynu o farn negyddol mewnfudwyr saesneg or iaith ar tusami o ddiwylliant saesneg syn llenwi ein bywydau pob dydd.
mane anghen nifer o atebion.
addysg gymraeg i bawb fydde un cam mawr.doesne ddim rheswm na esgis i beidio cal hune.