Josgin a ddywedodd:Dwy ochr o'r un geiniog ?
Cymreigio Caerdydd = Seisnigio'r Fro Gymraeg ?
Mae 'na ochr arall hefyd....sef y mewnlifiad o Loegr gan fwyaf i'r Fro. Dwi'n meddwl y bydd y mewnlifiad yn arafu nawr. Bydd llai o waith i gael nawr am rai blynydde. Bydd hyn yn glolygu llai o mewnfudwyr o dramor yn dod i'r DU. Llai o bwysau ar dai. Prisiau yn gostwng. Mwy o broblemau i'r banciau fydd yn benthyg llai fydd yn gostwng prisiau rhagor. Mi fydd llai o ffudd-daliadau hefyd fydd yn gwneud i'r brodorion gymeryd gwaith nad oedd chwant arnynt wneud cyn hyn fydd hefyd yn golygu llai o swyddi i dramorwyr. Bydd y rhan fwyaf o'r swyddi yn y dinasoedd. Mae'r byd lle'r oedd mwy a mwy o gredyd i'w gael wedi dod i ben am dipyn....efallai am genhedlaeth. Efallai fydd hyn yn amser i'r Fro gymeryd anadl, a ceisio adfer rhywfaint......? Er, bydd y gwleidyddion yn gwneud pobpeth i newid hyn ac ail greu'r economi Ponzi.....ond mae arnaf 'ofn' taw ofer bydd eu hymdrechion.