Tudalen 1 o 1

Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Iau 31 Rhag 2009 2:17 pm
gan Duw
Sori, nid Fater i Gymru yn unig yw hwn wrth gwrs ond...

Clywed ar y radio bore ma, 'Welcome in the new decade".

Ydy'r ddegawd yn dechrau yfory neu mewn blwyddyn o hynny ar 2011? Rwy'n cofio'r ffwdan o filflwydd newydd ar 2000/2001. I mi 2001 ydoedd (Oherwydd nid oedd blwyddyn 0 - dechrau ar 1 O.C.C.) a byger mi, pawb yn penderfynu yn f'erbyn. Beth am y ddegawd? Be 'dy'ch barn chi?

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Iau 31 Rhag 2009 7:09 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ay, degawd newydd, swn i'n credu. Ond oedd y blynyddoedd yn dechrau efo 0, dim 1?

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Iau 31 Rhag 2009 8:36 pm
gan Nanog
Blwyddyn/Degawd Hapus i bawb a phob lwc......mi fydd eisiau fe! :ofn:

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Iau 31 Rhag 2009 9:59 pm
gan dewi_o
Ie, degawd newydd.
Blwyddyn Newydd Dda i bawb ar Faes E.

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Iau 31 Rhag 2009 10:36 pm
gan dafydd
Does gan y broblem 'cyfri o 0 neu 1' ddim llawer i wneud a degawd na chanrif (mae'r Gymraeg yn grêt fan hyn - 'can rhif' nid 'cyfri o 1 i 100'. Mae degawd yn unrhyw rediad o ddeg mlynedd lle bynnag mae'n dechrau. Mae dathlu degawd/canrif/mileniwm yn rhywbeth hollol arbitrary neu fympwyol oherwydd ein system degol a hoffter yr ymennydd dynol am batrymau 'twt'. Felly waeth i ni anghofio am dau rhif cyntaf y flwyddyn a cyfri degawdau o 0-10 (yr un fath a ni'n wneud gyda penblwyddi).

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ion 2010 4:25 pm
gan Duw
Wel, dwi'n gweld degawd fel 60au, 70au ac ati fel y mwyafrif.

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ion 2010 7:23 pm
gan ami
Dwi'n cytuno â chi. Mewn egwyddor, unrhyw cyfnod o ddeg mlynedd ydy degawd, ac unrhyw cyfnod o gan mlynedd ydy canrif. Ond gyda'r canrifoedd, yr ymarfer yw eu cyfri ("yr unfed canrif ar hugain" ayyb), ac felly er mwyn gwneud hynny mae rhaid i chi feddwl ym mha flwyddyn dechreuodd y canrif cyntaf ayyb. Ond gyda degawdau, siaredir am y 60au ayyb - does neb yn eu cyfri yn yr un modd â'r chanrifoedd ("yr ail ddegawd wedi'r dau gant" neu'n debyg).

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Sad 02 Ion 2010 5:01 pm
gan Seonaidh/Sioni
Cawson nhw hwyl efo'r degawd diwetha yn Lloegr gan ei alw o'n ddegawd y "noughties". Beth oedd yr enw Cymraeg - y "dim yn deg-au" te rywbe?

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Sad 02 Ion 2010 7:46 pm
gan Doctor Sanchez
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Cawson nhw hwyl efo'r degawd diwetha yn Lloegr gan ei alw o'n ddegawd y "noughties". Beth oedd yr enw Cymraeg - y "dim yn deg-au" te rywbe?


Y dim-dimau oedd y term Cymraeg dwi'n meddwl

Re: Degawd Newydd??

PostioPostiwyd: Sul 03 Ion 2010 6:59 pm
gan Ar Mada
Be da ni am alw'r ddegawd yma ta?

Cymraeg - Y Dega? Yr ugain-dega?

Saesneg - Tens? Twenty-tens?