Os y bu un nodwedd i brifathrawon Coleg/Prifysgol Bangor - eu diifyg ymrwymiad i'r Gymraeg gyda'u plant eu hunain , heb son am ei gymell ymysg plant pobl eraill. Enwyd tri person a fuasai wedi bod ar y pwyllgor penodi. Gallaf ddyfalu agwedd yr Athro Peredur Lynch yn syth - buasai'n ddi-gyfaddawd o blaid y Gymraeg .
Ni wn am un gwr sy'n Gymro, a'r trydydd yw'r 'arglwydd' Ellis-Thomas. Tybed beth oedd ei agwedd yntau - wedi'r cyfan, oni ddyweddodd i frwydr yr iaith gael ei hennill flynyddoedd yn ol ? . Pwy yw'r Saeson ar y panel, tybed ? . Dyna'r broblem yn ein prifysgolion. Saeson yn penodi Saeson mewn cylch dieflig. Er i mi raddio yno fy hun, teimlaf yn aml y buasai Cymreictod Arfon yn gryfach petai'r 'ploryn ar y bryn' yn cau yfory.