Tudalen 1 o 3

Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Mer 13 Ion 2010 3:46 pm
gan Cilan
Mae'n syndod nad oes yna fwy o drafod wedi bod ar y stori yma yn Golwg: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=8755

Yn ol Golwg: 'Mewn cyfarfod ar Ragfyr 11 roedd Cyngor y Brifysgol yn cael eu cymell gan y Tîm Rheoli i gau’r adrannau Diwinyddiaeth ag Astudiaethau Crefyddol, Ieithyddiaeth (Linguistics), Gwyddorau Cymdeithasol, Ieithoedd Modern ac Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol.'

Mi fyddai colli'r adrannau yma'n goblyn o ergyd i'r brifysgol ac i addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

All rhywun gynnig mwy o oleuni ar y stori?

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Mer 13 Ion 2010 6:56 pm
gan Josgin
Yn ystod y 70'au , y gri unfryd ymysg cenedlaetholwyr oedd ' Dim Ehangu ', gan fod hynny'n anochel yn dod a degau o ddarlithwyr a miloedd o fyfyrwyr i'r ardal nad oeddent o reidrwydd yn siarad Cymraeg.
Yn awr , crebachu'n sylwedol mae'r coleg , ac ni fydd cymaint o fyfyrwyr yn dod yno .
Peth da neu peth drwg i'r Gymraeg yw hyn ?

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Mer 13 Ion 2010 7:40 pm
gan Rhys Llwyd
Nid crebachu mae'r Brifysgol nawr Josgin, ond ehangu ymhellach ac i wneud lle i hynny maen nhw'n cael gwared o'r adrannau llai ac, yn arwyddocaol, y rhai Cymreig! Maen ofnadwy.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ion 2010 8:43 am
gan sian
Llythyron gan gynrychiolwyr o'r Ysgolion Diwinyddiaeth ac Ieithyddiaeth yn Golwg heddiw.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ion 2010 8:31 pm
gan Cilan
maen nhw'n cael gwared o'r adrannau llai ac, yn arwyddocaol, y rhai Cymreig! Maen ofnadwy.


Yn hollol. Does 'na ddim llawer o gyrsiau gradd sydd ar gael yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a mae nifer ohonyn nhw yn adrannau Diwyniyddiaeth a Gwyddorau Cymdeithasol Bangor. Mae yna nifer o gyrsiau eraill sydd ar gael yn rhannol yn y Gymraeg yn yr adrannau eraill sy dan fygythiad hefyd.

Mae gwefan Mantais - http://www.mantais.ac.uk/cyrsiau/?lang=cy - yn dangos faint mewn gwirionedd o gyrsiau addysg uwch cyfrwng Cymraeg sydd 'na.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ion 2010 10:05 am
gan obi wan
Nid yn unig fydd ddim Dysgu trwy'r Gymraeg ar ^ol, fydd dim Cyfadran Gelfyddydau chwaith. Mae awdurdodau Bangor newydd ail-enwi'r lle yn "Brifysgol" tra'n ei droi yr un pryd yn rhywbeth salach na pholitechnig. Dyma wneud gwawd o holl draddodiad y coleg a holl ymdrechion y gorffennol. NYTARS. NYTARS HOLLOL. I'r seilam ^a nhw. Dyn a helpo'r Prifathro fydd yn dilyn hyn. Job iawn i ryw Sais. Rhy dorcalonnus i Gymro.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ion 2010 10:39 am
gan sian
obi wan a ddywedodd:Nid yn unig fydd ddim Dysgu trwy'r Gymraeg ar ^ol, fydd dim Cyfadran Gelfyddydau chwaith. Mae awdurdodau Bangor newydd ail-enwi'r lle yn "Brifysgol" tra'n ei droi yr un pryd yn rhywbeth salach na pholitechnig. Dyma wneud gwawd o holl draddodiad y coleg a holl ymdrechion y gorffennol. NYTARS. NYTARS HOLLOL. I'r seilam ^a nhw. Dyn a helpo'r Prifathro fydd yn dilyn hyn. Job iawn i ryw Sais. Rhy dorcalonnus i Gymro.


Beth yw'r rheswm felly?

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ion 2010 1:10 pm
gan dawncyfarwydd
Annwyl fyfyriwr,

Efallai y gwyddoch fod y Brifysgol wedi bod yn cynnal 'Arolwg Academaidd' sydd wedi
cynnwys asesiad manwl o'n portffolio darpariaeth academaidd.

Cafodd Cyngor y Brifysgol, sef ein corf llywodraethol, wybodaeth am yr Arolwg yn mis
Rhagfyr a chytunwyd y cynhelid trafodaethau pellach cyn y cymerir unrhyw gamau pellach.
Byddai gwybodaeth ychwanegol hefyd yn cael ei darparu i'r Cyngor fel sail i'w
trafodaethau.

Efallai y byddwch yn ymwybodol i mi hefyd gyhoeddi yn yr un cyfarfod yn Rhagfyr, y byddaf
yn ymddeol yn Hydref 2010.

Ar ôl ystyriaeth fanwl mae tim uwch reoli y Brifysgol (y Pwyllgor Gweithredu) wedi
penderfynu y dylem ddisgwyl nes penodir Is-Ganghellor newydd cyn cyflwyno cynigion i'w
hystyried ynghylch Ysgolion penodol. Bydd hyn yn caniatau i'r Is-Ganghellor newydd i
gyfrannu at unrhyw newidiadau angenrheidiol, a chael perchenogaeth drostynt.

Mae'n bwysig pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniadau o gwbl wedi eu gwneud, ac unwaith y
penodir yr Is-Ganghellor newydd, ymgynghorir yn llawn gyda'r Cyngor, y Senedd, staff,
Undebau Llafur a myfyrwyr yn arbennig ar unrhyw gynigion neu ddewisiadau yn deillio o'r
Arolwg cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau.

Byddwch yn gwybod, wrth gwrs, bod y pwysau ariannol sy'n wynebu prifysgolion led led
Prydain yn sylweddol, er fod y sefyllfa yng Nghymru yn llai eglur ar y funud. Beth sydd
yn glir yw fod yr angen i wneud penderfyniadau anodd yn anorfod yn y dyfodol. Mae newid
yn angenrheidiol, nid yn unig oherwydd pwysau ariannol, ond hefyd o ganlyniad i'r
cyfeiriad strategol newydd sy'n ofynnol gan y Llywodraeth - yn San Steffan a Bae
Caerdydd. Mae'r strategaeth honno yn cynnwys pwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol a
datblygiad economaidd, a chanolbwyntio adnoddau ac ymdrech ar ganolfannau o ragoriaeth
cynaliadwy. Nid yw ond cywir a phriodol yn fy marn i, ac ym marn y Pwyllgor Gweithredu, y
dylai'r Is-Ganghellor newydd gael cyfle gwirioneddol i gynorthwyo i lunio cyfeiriad y
Brifysgol ar gyfer y dyfodol.

Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiad o bwys.

Yn gywir,

R. Merfyn Jones
Is-Ganghellor

Ydi hwnna'n esbonio unrhyw beth?

Na, do'n i'm yn meddwl.

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ion 2010 11:54 pm
gan Seonaidh/Sioni
Nag ydy - dim ond dweud "Mae pethau'n mynd i fynd yn uffernol o ddrwg ac rydw i'n offski cyn i hynny ddigwydd".

Beth fyddai o i le wrth roi'r gorau i ddarlithio yn y Saesneg ac yn gwneud y cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg?

Re: Pum adran i fynd ym Mhrifysgol Bangor?

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 11:19 am
gan obi wan
i ateb Gweinyddwr. Y "rheswm" yw'r ofergoel na ellir cael adran academaidd o gwbl os nad yw'n adran fawr, e.e. Adran Seicoleg efo 9 neu 10 o gadeiriau athrawon ! Yn draddodiadol, bu hanner dwsin o ddarlithwyr yn ddigon i ddysgu pwnc yn gwbl effeithiol, a'r ateb i'r prifysgolion yw mynd yn ^ol at drefn felly. Ond mae'r gwleidyddion academaidd heddiw yn Adeiladwyr Ymerodraeth yn anad dim arall, a dyna pan y mae cymaint o brifysgolion y dyddiau hyn yn torri beddi oddyn nhw'u hunain.