Gwefan newydd hawdd ei defnyddio yw Yfed Doeth Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth ddwyieithog am yfed yn gall. Mae’r wefan yn rhoi cyfle i chi fesur faint rydych chi'n ei yfed, a dysgu am effeithiau alcohol ar y corff. Mae gwybodaeth hefyd am faint o galorïau sydd mewn rhai diodydd alcoholaidd poblogaidd, a gêm ddal wyau ddifyr yn dangos sut yr gall alcohol eich arafu.
Mae’r wefan yn cynnwys dyddiadur diota i’w lawrlwytho, ac mae copïau print o hwn ar gael am ddim gan Alcohol Concern Cymru.