Tudalen 1 o 1

Faint y mae'r Cymry yn ei yfed?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2010 9:48 am
gan Dili Minllyn
Gwefan newydd hawdd ei defnyddio yw Yfed Doeth Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth ddwyieithog am yfed yn gall. Mae’r wefan yn rhoi cyfle i chi fesur faint rydych chi'n ei yfed, a dysgu am effeithiau alcohol ar y corff. Mae gwybodaeth hefyd am faint o galorïau sydd mewn rhai diodydd alcoholaidd poblogaidd, a gêm ddal wyau ddifyr yn dangos sut yr gall alcohol eich arafu.

Mae’r wefan yn cynnwys dyddiadur diota i’w lawrlwytho, ac mae copïau print o hwn ar gael am ddim gan Alcohol Concern Cymru.

Re: Faint y mae'r Cymry yn ei yfed?

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2010 6:26 pm
gan tommybach
'Rhy gormod' fel o ni'n arfer dweud yn ysgolion y dde :D

Re: Faint y mae'r Cymry yn ei yfed?

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2010 6:27 pm
gan tommybach
Mae eich ymatebion yn dangos eich bod yn y categori risg is, sy'n golygu, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, mai risg is sydd i chi gael eich niweidio gan effeithiau alcohol.

O.o

Re: Faint y mae'r Cymry yn ei yfed?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ebr 2010 8:37 pm
gan Duw
Wel dyma fi:

22.8 units:
I ddynion, mae yfed mwy na 3 i 4 uned y diwrnod yn rheolaidd yn 'risg gynyddol'.

Mae eich ymatebion yn nodi eich bod yn y categori hwn. Mae yfed ar y lefel hon yn risg gynyddol i'ch iechyd.

Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n flinedig neu'n isel eich ysbryd, yn magu pwysau, yn anghofio wrth yfed, yn cysgu'n wael ac yn caelanawsterau rhywiol.


Cwmpo i gysgu mewn cyfarfodydd, crwmp fy nhîn ar fy nhalcen, tew, ffili ffindo dim, dihuno'n hunan trw'r amser trw 'hwrnu, limp dic. Aye, dyna fi. Ma'r safle ma'n spot on.

Re: Faint y mae'r Cymry yn ei yfed?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Ebr 2010 9:31 pm
gan Siani Flewog
Da iawn - "rhy gormod" cyfarwydd iawn, un arall ydy "mwy bach". Dwi'n yfed rhy gormod ond mwy bach na ti!