gan Iwan Rhys » Maw 27 Ebr 2010 2:54 am
dewi_o, (neu unrhyw un), petai Ron Davies yn sefyll yn enw Plaid Cymru yn etholiadau'r Cynulliad 2011 yng Nghaerffili, wyt ti'n credu y byddai ganddo fe siawns dda?
Mae gen i gof i Adam Price lansio rhywbeth fel "Prosiect21" chydig flynyddoedd nol, sef nod i Blaid Cymru fod yn blaid fwyaf y Cynulliad yn 2011, ac roedd e'n meddwl mai 21 sedd oedd y ffigur y byddai angen ei gyrraedd.
Wrth ystyried ambell ffactor sydd wedi dod i'r amlwg dros y flwyddyn-ish ddiwethaf, e.e. posibilrwydd o Ron yn ymgeisydd PC yng Nghaerffili, Dafydd Trystan yn cael ymgyrch dda iawn yng Nghwm Cynon, rhai yn son y gallai Adam Price sefyll yng Nghastell Nedd, ac o weld pobl yn troi oddi wrth Lafur yn ddiweddar, sgwn i pa mor bosibl/amhosibl yw'r ffigur ma o 21?
Dyw hi bellach ddim yn amhosibl gweld Plaid Cymru yn ennill yr holl etholaethau hyn:
Ynys Mon, Arfon, Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Dwyfor Meirionydd, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin a De Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr, Llanelli, Castell Nedd, Cwm Cynon a Chaerffili. Ac wrth gwrs, mae Rhondda ac Islwyn wedi bod yn wyrdd yn y gorffennol hefyd.
Dychmygwch sut bydde hynny'n edrych ar y map! Heblaw am chydig ffiltiroedd yn ardal Machynlleth, byddai'n bosib cerdded o Gaergybi i Gaerffili ar dir gwyrdd!
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.