Tudalen 1 o 2

Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 12:06 am
gan Ar Mada
wwwwww iei! Pawb allan efo'i baneri wythnos yma! Llawenhewch a byddwch falch o'ch ymerodraeth!!

http://www.caernarfonherald.co.uk/caern ... -26290600/

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 12:57 pm
gan huwwaters
Mae'r papur yn argraffu "offensive" fel mater o ffaith i bawb, heb gyfeirio at bwy sy'n ei weld yn "offensive". Siwr bod nifer yn gweld hi'n "offensive" for y Frenhines yn meiddio dangos ei hwyneb yng Nghaernarfon.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Llun 26 Ebr 2010 4:29 pm
gan Duw
Beth yw'r gost o dywys yr hen wraig 'ma o gwmpas y lle? Beth ydy Caernarfon yn mynd i gael allan o'r ymweliad 'ma? Mwy o swyddi? Os felly, a fydd 'gwerth' y swyddi ychwanegol 'ma yn cyfateb i gost yr ymweliad? Gwerth am arian? Na. Nid syndod i glywed bod 'royalists' ar gyngor Caernarfon am ei gweld hi, beth bynnag yw'r gost i'r wlad. Twlsod.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 9:05 am
gan Ar Mada
Pam bod propoganda mor amlwg dyddia yma?

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 9:28 am
gan bed123
Mae'r amseriad yn rhyfedd, wythnos cyn etholiad. Peidiwch a mynd i Caernarfon heddiw, gadwch i teip mewnblyg fel Anita kirk llyfu tin y cwin os mae nhw eisiau, ond fyddai ddim ar gyfail y lle.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 10:45 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
ydi ysgolion caernarfon i gyd yn gorfod mynd i'w chyfarfod hi?!

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 2:35 pm
gan Sioni Size
Mae'r amseriad yn berffaith i drio tanseilio'r Neshnylisd fot wythnos yr etholiad.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 3:39 pm
gan bed123
Pwy ddaru gwahodd y cwin wythnos cyn etholiad yn yr ardal yma?? Ysgrifenydd Gwladol, Peter Hain? Achos ddaru rwyn gwahodd hi yn swyddogol. Wneith y pleidiau Prydeinig unrhyw beth i danseilio ymgyrch y Blaid, fel rydym wedi gweld hefo dadlau at teledu.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 3:56 pm
gan Cymru Fydd
Rydw i o blaid croesawu'r Frenhinez i Gaernarfon yn gyfangwbl. Mi gaiff hi ganu God Save the Queen, boed i holl blant Caernarfon fynd yno i chwifio'u baneri a boed iddi siarad Cymraeg yn garpiog er mwyn rhwbio'r halen yn y briw. Boed i Anita Kirk gael ei hennyd fechan hi o gynhesrwydd Prydeinig, a boed i Lis ddod â'i hwyr bach William i gael ei arwisgo yma pan gaiff Carlo ei greu'n frenin. Mi gân anghofio Hen Wlad fy Nhadau - byddai Swing Low yn llawer gwell i'r achlysur arbennig hwn.

Cyn i chi feddwl 'mod i'n gwallgofi, dyma fy rhesymeg. Mae Cymru wedi'i chael hi llawer yn rhy hawdd yn ddiweddar. Oce, mae'r iaith yn dirywio, ond rhyw fygythiad tawel sy'n pydru yn y gornel yw hwnnw. Mae angen pethau fel hyn i fegino marwor ein cenedlaetholdeb. Mae'n ffaith - mae'r Gymraeg wastad ar ei chryfaf pan fo bygythiad uniongyrchol a gormes yn ei hwynebu bob dydd. Pan oedd plant Cymru yn derbyn y Welsh Not am siarad Cymraeg, roedd y Gymraeg yn fyw ac yn gyffrous. Pan ddaeth Carlo i Gaernarfon yn 1969, roedd cenedlaetholdeb ar ei anterth, a chafwyd rhai o'r cerddi mwyaf angerddol erioed yn yr iaith. Cafwyd merthyrod hefyd.

Ond rwan, mae hi'n llawer rhy hawdd i fod yn Gymro. Mae gynnon ni ysgolion Cymraeg a hawliau cyfartal. Ond eto, mae'r dirywiad yn cyflymu.
Felly, boed i'r holl deulu Brenhinol feddiannu Cymru i'n codi ni oddi ar ein tinau. Digwydda ffyniant o hyd o dan ormes. Heb Ddeddf Uno 1536 a heb gwymp 1282, ni fyddai'r iaith Gymraeg yn fyw heddiw.

Galwa draw eto'n fuan, Lis fach. Mi gaiff Anita Kirk ei bodloni, a chaiff yr iaith Gymraeg fyw.

Re: Ymweliad yr hen Liz

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 7:06 pm
gan Chickenfoot
Dw i'm wir yn "royalist", ond mae Phil yn adloniant wych. 'Swn i'n ei anfon ar daith rhyngwladol fel cynrychiolydd Prydain i'r byd.
Comedy gold.