gan Cymru Fydd » Maw 27 Ebr 2010 11:06 pm
Do, mi glywes i am hyn. Gwych iawn yw gweld darpar Dywysog Cymru yn ymweld â chalon Cymreictod yn y Blaenau.
(Wir yr - mi yden ni angen arwisgiad arall i'r Gymraeg fyw!)
Eiliet, eiliet Lywelyn,
eiliet wên pe gwelit hyn,
y mae Cymro'n estron wr,
ein cariad yn goncwerwr,
i'n gwerin bydd trugaredd
er mwyn byw ar rimyn bedd.
Heb unrhyw fygythiad, bydd y Gymraeg yn marw.
"Maes-e yw'r lle am seiat!"