Re: Ymweliad yr hen Liz
Postiwyd:
Maw 27 Ebr 2010 10:38 pm
gan Ar Mada
Beth am hyn ta! Tywysog Willy yn Mcolls Blaenau yn prynu mynshis! Dydd Sul dwi meddwl...... eeeww da gweld ein tywysog i fod yn y fro! Prynu paced o grisps... un o hogia'r werin! Asgob.....'I have the sudden urge to vote Conservative....'
Re: Ymweliad yr hen Liz
Postiwyd:
Maw 27 Ebr 2010 11:06 pm
gan Cymru Fydd
Do, mi glywes i am hyn. Gwych iawn yw gweld darpar Dywysog Cymru yn ymweld â chalon Cymreictod yn y Blaenau.
(Wir yr - mi yden ni angen arwisgiad arall i'r Gymraeg fyw!)
Eiliet, eiliet Lywelyn,
eiliet wên pe gwelit hyn,
y mae Cymro'n estron wr,
ein cariad yn goncwerwr,
i'n gwerin bydd trugaredd
er mwyn byw ar rimyn bedd.
Heb unrhyw fygythiad, bydd y Gymraeg yn marw.