Tudalen 1 o 1

Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 3:59 pm
gan Hedd Gwynfor
Gwerth gweld :lol:


Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 5:00 pm
gan Seonaidh/Sioni
Os gwerth gweld, gwerth ymddangos? Neu oes na ryw blocker ar nghyfrifiadur?

Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 7:35 pm
gan H Huws
Lle mae hwn ‘di bod ym mywyd cyhoeddus Cymru?! Sôn am dal ei dir! Chwa o awyr iach i Gymru ar Newsnight. Gen i barch i Paxman ac felly mae ei gamp i mi gymaint yn fwy.

Os wnaiff barhau mor huawdl gyda’i ddysg a’i hyder gall wneud cyfraniad mawr i Gymru – i’r coffrau’n benodol.

Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 8:01 pm
gan Dili Minllyn
Difyr iawn gweld Paxo'n cael ei haeddiant. Ei glywed e'n mwmian "Oh God!" yn ddiamynedd o dan ei wynt yw'r darn gorau.

Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 8:45 pm
gan Hedd Gwynfor
H Huws a ddywedodd:Lle mae hwn ‘di bod ym mywyd cyhoeddus Cymru?! Sôn am dal ei dir! Chwa o awyr iach i Gymru ar Newsnight. Gen i barch i Paxman ac felly mae ei gamp i mi gymaint yn fwy.

Os wnaiff barhau mor huawdl gyda’i ddysg a’i hyder gall wneud cyfraniad mawr i Gymru – i’r coffrau’n benodol.


Fe fyddai wedi bod yn y Ty Arglwyddi ers blynyddoeddoni bai bod Gordon Brown wedi gwrthod ei wneud yn arglwydd. :drwg:

Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Maw 27 Ebr 2010 9:32 pm
gan Duw
Clasur! Dwi erioed wedi gweld Paxo o dan y lach felna. Eurfyl am Arweinydd PC? Rhaid bod yn well na "Mr Charismatic".

Re: Eurfyl yn rhoi crasfa i Paxman!

PostioPostiwyd: Sad 01 Mai 2010 11:26 pm
gan dewi_o
Buaswn i'n hoffi ei weld yn Y Cynulliad, efallai ar un o resteri Rhanbarthol y Blaid.