Yr Etholiad

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Yr Etholiad

Postiogan Josgin » Sad 08 Mai 2010 7:56 am

Credaf fod canlyniad Arfon yn un da hefyd - mae cymhathu cadarnle Llafur fel Bangor, a hefyd brwydro'n erbyn y myfyrwyr (sydd i bob pwrpas bellach yn ran o beiriant y Rhydd Dem) yn lwyddiant personol mawr i Hywel Williams. Cofier hefyd mai hogyn o Bangor oedd y Tori. Mater arall os y gwnawn ei weld yma eto !
Credaf y bydd angen i Plaid Cymru edrych o ddifrif ar ymgyrch Ceredigion. Dyma rai sylwadau pellach.
(1) O ethol AS Rhydd Dem, cewch gynghorydd sir + . Bydd y eich helpu, yn ymddangos mewn bore coffi, ac fe wnaiff gael ei wyneb yn y papur newydd lleol.
Fe wnaiff hyn yn dda, ac amwn i fod Marc Williams yn gyflawni'r uchod.
O ethol AS Plaid Cymru, cewch wleidydd. Bydd yn lefarydd ar bynciau cenedlaethol (llond dwrn ohonynt fydd yn San Steffan , ar y gorau) , bydd yn siarad yn
aml ar S4C (Mae'n fantais yn hynny o beth i Marc Williams fod y Gymraeg yn ddirgelwch llwyr iddo) , a bydd llawer ar ei blat. Dyna pam y gwnaeth Simon
Thomas (a'r glustdlws felltith yna) golli'r sedd y y lle cyntaf. Ymddangosai fel petai'n ymddiddori mwy mewn polisiau na mewn etholaeth .

(2) Nid wyf yn siwr os mai doeth oedd gwahodd Ron Davies i siarad mewn rali. At bwy mae'n mynd i apelio yng Ngheredigion ? . Mae'r bleidlais 'Lafur' wedi hen
ddiflannu 'Busted flush ' fu Ron Davies ers blynyddoedd, a gwell i'r Blaid ei anwybyddu . ( onibai am fod ei hoffter o foch daear yn mynd i ddenu hippies,
wrth gwrs )

(3) Efallai, o wybod ei gefndir ym myd amaethyddol , mai'r cynulliad yw'r lle gorau i Penri James . Yn anffodus , mae Elin Jones yn aelod da dros Ceredigion yn
barod. ( Tebyg i reolwr peldroed sy'n trio chwarae Lampard a Gerrard y yr un tim ).

(4) Nid yw'n fantais bod yn lleol bob tro. A wyf yn iawn i ddweud i Penri James golli ei sedd ar y cyngor rai blynyddoedd yn ol , ac i fod mewn ffrae am dy ?
Digon posibl felly fod pleidlais gwrth-bersonol yn ei erbyn.

Hoffwn glywed barn rhywun sy'n byw yn Ngheredigion , neu sydd a mwy o wybodaeth mewnol am yr etholaeth. Yn sicr, hwn oedd y canlyniad mwyaf
siomedig i mi yr etholiad yma, ac y 'swing' mwyaf gwrth-cenedlaetholgar (sylwer y geiriad) erioed yng Ngorllewin Cymru, amwn i .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Yr Etholiad

Postiogan Deiniol » Sad 08 Mai 2010 11:02 am

pleidlais y Blaid Lafur yng Nghymru oedd 531,601 a dwi'n meddwl mai sioni oedd yr agosaf ar hwnnw ( ond nid hefo'r seddi!) ond o ran seddi mae gogwydd gobeithiol at seddi Ynys Mon,Llanelli a Cheredigion wedi taflu damcaniaeth sawl un a dim ond un o be welai wedi rhagweld canlyniad Maldwyn sef clebryn.mae dewi_o wedi bod yn eitha agos iddi a fo oedd y cynta i roi ei ben ar y bloc.
Dwi wedi clywed si mai pleidlais rhannau o Fangor a Dyffryn Ogwen wnaeth y gwahaniaeth i'r Blaid yn Arfon ac y byddai wedi bod yn agos iawn fel arall. oes rhywun yn gallu taflu goleuni ar hyn?
Deiniol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:34 am

Re: Yr Etholiad

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 08 Mai 2010 3:09 pm

Yn ôl pob tebyg yr hyn ddigwyddodd yn Arfon oedd bod Llafur wedi ennill ym Mangor, ei bod yn ddigon cyfartal yng Nghaernarfon a bod gweddill Arfon wedi pleidleisio'n eithaf cryf dros Blaid Cymru, gan gynnwys Dyffryn Ogwen.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Yr Etholiad

Postiogan garynysmon » Sad 08 Mai 2010 4:25 pm

Horach, ti'n meddwl fod Dyffryn Ogwen wedi pleidleisio'n gryf dros PC y tro yma am mai dyma'r tro cyntaf i Fethesda fod mewn sedd lle mae'r Blaid efo siawns i ennill?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Yr Etholiad

Postiogan Iwan Rhys » Sul 09 Mai 2010 12:19 am

Dwi wedi bwrw golwg cyflym drwy'r cynigion darogan, ac ie, mae'n debyg mai dewi_o sy'n fuddugol - llongyfarchiadau! O weld y canlyniadau'n dod drwyddo, do'n i ddim yn meddwl y byse unrhywun mor agos â thair sedd at fod yn gywir.

Gan obeithio y daw'r awen heibio, megis Peter Hain mewn hofrennydd, fe fydd englyn yn ymddangos i ti fan hyn yn y diwrnodau nesaf.
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Yr Etholiad

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 09 Mai 2010 4:54 pm

garynysmon a ddywedodd:Horach, ti'n meddwl fod Dyffryn Ogwen wedi pleidleisio'n gryf dros PC y tro yma am mai dyma'r tro cyntaf i Fethesda fod mewn sedd lle mae'r Blaid efo siawns i ennill?


Dwnim rili. Mae Dyffryn Ogwen wedi dod yn gryfach dros y blynyddoedd diwethaf i Blaid Cymru, felly dwi'n meddwl bod 'na shift sylfaenol yn digwydd i fod yn onast.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Yr Etholiad

Postiogan Iwan Rhys » Gwe 28 Mai 2010 12:32 am

Fel gwobr i'r buddugol yn y gystadleuaeth ddarogan, mi addewais englyn ("yn y diwrnodau nesaf"?!).

Dair wythnos yn ddiweddarach, gydag ymddiheuriadau am yr oedi, dyma'r englyn i dewi_o:

Ie, rhown i Dewi'n raenus - wledd o fawl
i'w ddyfalu campus
a rhown yn llwyr win ein llys
i’w ddoniau tra llwyddiannus!

dewi_o, os wnei di anfon neges breifat ataf i yn rhoi dy gyfeiriad, fe anfonaf gerdyn post gyda’r englyn arno o Seland Newydd, yn ol fy addewid.

Iwan
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Yr Etholiad

Postiogan dewi_o » Llun 31 Mai 2010 7:54 am

Gwych Iwan !

Diolch yn fawr iawn i ti.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron