gan Iwan Rhys » Llun 03 Mai 2010 12:57 am
CYSTADLEUAETH!
Diolch i Deiniol am roi cychwyn ar y gystadleuaeth ma, ac fe wnaf innau gynnig gwobr i'r enillydd:
Englyn i'r dyfalwr gorau!
Bydd yr englyn yn ymddangos fan hyn ar Maes-e, ac fe bostia i'r englyn ar gerdyn post i'r person buddugol yr holl ffordd o Seland Newydd.
Rhag ofn y bydd na ddau neu fwy yn gyfartal, dyma'r tie-breaker:
Beth fydd cyfanswm nifer pleidleisiau'r Blaid Lafur yng Nghymru?
(Felly'r rhai ohonoch chi sydd wedi darogan yn barod, rhowch gynnig ar y tie-breaker).
Mae'n well i ni gael amser cau hefyd. Beth am 12 o'r gloch canol dydd dydd Iau?
Rhowch wbod i bobl eraill am y gystadleuaeth, er mwyn cael criw go lew i gystadlu.
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.