Yr Etholiad

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Yr Etholiad

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 07 Mai 2010 9:39 am

Yn bersonol, dwi ddim yn gweld hwn yn ganlyniad mor wael a hynny i Blaid Cymru. Gyda'r sylw ychwanegol, a'r surge yn ei cefnogaeth trwy Brydain a Chymru (a dal colli sedd) byswn i lot mwy anhapus pe bawn i'n Rhyddfrydwr. Fel dywedodd Vaughan Roderick a Richard WYn Jones ar S4C, roedd disgwyliadau'r Blaid a chefnogwyr y Blaid lot rhy uchel.

ARFON: Canlyniad ardderchog i'r Blaid. Pe bai y ffiniau yr un peth nól yn 2005 Llafur bydde wedi ennill. Llongyfarchiadau mawr iawn i Hywel Williams gyda mwyafrif o 1,500.

DWYFOR MEIRIONYDD: Ardderchog eto i Elfyn Llwyd. Sedd saffa Plaid Cymru, a dal yn hynod o saff. Mwyafrif o 6,500.

DWYRAIN CAERFYRDDIN A DINEFWR: Ardderchog eto i'r Blaid. Mwyafrif o 3,500. 1,000 yn fwy o fwyafrif dros Lafur na chafodd Adam Price yn ei etholiad gyntaf nol yn 2001.

LLANELLI: Eto canlyniad ardderchog i Myfanwy Davies a'r Blaid. Ron i byth yn disgwyl iddi ennill tro yma, ond mae siawns gwirioneddol tro nesaf. Cynydd o 3.5% ym mhleidlais y Blaid. Llongyfarchiadau mawr i Myfanwy.

YNYS MÓN: Canlyniad siomedig, ond nid annisgwyl. Angen ymgeisydd lot cryfach tro nesaf dwi'n credu, ac angen gwell trefniadaeth leol. Pleidlais Llafur heb newid, ond tipyn o bleidleiswyr Plaid Cymru wedi pleidleisio dros y Toriaid tro hyn. Gyda ymgeisydd cryf mae hwn yn sicr yn sedd y gall y Blaid ail gipio ymhen 4-5 mlynedd.

CEREDIGION: Hon roedd yr unig sedd lle cefais i siom mawr. Mae'n anodd dadansoddi pam. Yn amlwg cafodd Cleggmania a'r dadleuon arlywyddol effaith yma, nid yn unig o ran yr etholwyr, ond yn fwy byth o ran yr ymgyrchwyr Lib Dems. Cafo nhw 'boost' anhygoel a hyder mawr. Roedd y myfyrwyr yn ffactor mawr fel arfer hefyd, ond rhaid i'r Blaid edrych yn agosach at adref. Collwyd 3,000 pleidlais i'r Rhyddfrydwr, ac fe wnaeth y Rhyddfrydwyr gymryd 3,000 arall oddi ar Llafur/Ceidwadwyr, gyda pleidlais Llafur yn cwympo trwy'r llawr. Angen ymgeisydd newydd tro nesaf dybiwn i, rhywun tipyn yn ifancach a mwy egniol, rhywun a fydd yn gwneud i ymgyrchwyr Plaid Cymru, a myfyrwyr Cymraeg Aber i weithio yn galed drosto fe. Mabon ap Gwynfor? :winc:

ABERCONWY: Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r Blaid gipio hon. Cynyddodd Phil Edwards bleidlais y Blaid o 4% bron chwarae teg, ond roedd y swing cenedlaethol i'r Ceidwadwyr yn lot gormod. Roedd yn amlwg y byddai Guto Bebb yn ennill, a llongyfarchiadau mawr iawn iddo. Trueni o ran yr ochr seicolegol i Phil ddod yn 4ydd, ond roedd hi'n agos rhwng Plaid/Rhyddfrydwyr/llafur. Mae hon hefyd yn sedd y gallai'r Blaid ennill yn y dyfodol mewn etholiad Seneddol. Angen cadw gyda'r ymgeisydd a gweithio'n galed.

CENEDLAETHOL: Cyn y dadleuon Prydeinig, ron i'n optimistaidd iawn, ac yn gobeithio cipio Ceredigion a Món i gael 5 AS Plaid Cymru am y tro 1af. Yn anffodus, nid oedd ymgyrchoedd (na ymgeiswyr mae arnai ofn) y Blaid yn y ddwy etholaeth yma yn ddigon da, ac roedd naratif 'Brydeinig' yr etholiad yn ei wneud yn dalcen caled iawn. Roedd nifer y pleidleiswyr y Blaid dros Gymru lawr rhyw 1% ers 2005, gyda Llafur lawr 6.5%, Ceidwadwyr lan rhyw 5% a Lib Dems lan rhyw 2%.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Yr Etholiad

Postiogan Duw » Gwe 07 Mai 2010 10:59 am

:seiclops:

Wylle cafodd y rhaglen deledu rhyw effaith, ond nid cymaint â hyn. Dwi'n rhoi'r bai yn sgwâr ar yr arweinyddiaeth. Os ydy Mr. Charismatic yn mynd i sefyll o flaen llwyth o bobl a phregethu yn ei lais pedantig main, dim ond niwed i'r Blaid y mae'n gwneud. Os bosib taw dim ond fi sy'n teimlo fel hyn? Pob tro dwi'n clywed e'n siarad ar y bocs - crinj. Dwi'n siwr ei fod yn foi iawn ac mae'n dod ar draws fel bachan deche, ond dyw e ddim yn f'ysbrydoli.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Yr Etholiad

Postiogan obi wan » Gwe 07 Mai 2010 12:32 pm

Noson dda i "Plaid" (!!) a chysidro mor galed mae hi wedi gweithio i dramgwyddo'i chefnogwyr gorau drwy ei thor-addewidion a'i hanonestrwydd. Plaid heb enw, heb arweiniad, heb d^an, heb egwyddor: syn ei bod wedi dal unrhyw seddau o gwbl. Ydi mae'r Mewnlifiad yn brathu go iawn rwan. Am Geredigion: pryd mae "Plaid" am ddechrau mesur dytanwad Coleg Aberystwyth, a chyfraniad cenedlaetholwyr mawr tuag at greu'r trychineb hwn drwy eu s^el dros ehangu'r coleg? Llong yr Ynfydion, ar y creigiau go iawn y tro yma !
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Yr Etholiad

Postiogan Cardi Bach » Gwe 07 Mai 2010 1:21 pm

Mae’n anodd iawn i mi greu dadansoddiad cytbwys a chlir heb gael y ffigurau o mlaen i yn llawn.

Yr hyn sydd yn fy synnu yw fod pleidlais y blaid i lawr mond 1% yn genedlaethol, ond eto, fod yna swing mawr yn erbyn Plaid cymru wedi bod yn etholaethau Welsh Wales.

Ar yr un olwg gellir rhoi dadl fod yr etholwyr wedi dechrau diflasu ar gefnogi Plaid yn yr ardaloedd yma. Ond dw’i ddim yn credu fod yna lawer o hygrededd yn y ddadl yma – wedi’r cwbl dim ond yng Ngwynedd y mae’r blaid yn rheoli cyngor Sir, tra fo’r Rhyddfrydwyr yn rhan o glymblaid Ceredigion, yn gwneud toriadau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus yno, ond eto yn cael mwyafrif anferthol.

Na, nid dyma yw’r ateb felly.

Fy nheimlad greddfol i yw fod yna ddwy ffactor allweddol ar waith yma, sydd yn cyd-blethu.

Yn gyntaf hon oedd yr etholiad mwyaf ‘Prydeinig’ yn ei natur yr wyf i erioed wedi ei brofi o’r blaen. Mae hwn yn ymddangos yn osodiad rhyfedd ag ystyried mai etholiad Brydeinig yw etholiad san steffan; ond fel rheol mae ffactorau lleol, gwasg leol, ac ati, yn chwarae rhan llawer mwy dylanwadol, ond nid y tro yma. Roedd hon yn etholiad a gafodd ei hymladd yn enw tri dyn, a phleidlais i’r dynion yna a roddwyd…neu gwrth-bleidlais. Roedd tacteg Peter Hain yng Nghymru o godi bwganod ynghylch y Ceidwadwyr wedi gweithio i’r dim. Ymddengys fel fod yr holl son am senedd grog, a fyddai o fantais i’r Rhyddfrydwyr, wedi ‘backfiro’ ar y rhyddfrydwyr, ac i raddau ar Blaid Cymru, gyda’r etholwyr yn dewis un o ddwy blaid, er mwyn cadw’r llall allan o bwer. Buddigoliaeth i’r bleidlais negyddol yw buddigoliaeth etholiadau 2010. Yr eironi ddwbl yw ei fod yn ymdangos fel y CAWN ni senedd grog, ond gyda niferoedd dipyn yn llai o ASau Lib Dem / Plaid / SNP i fynu newid. Mae ethol caroline Lucas, Gwyrddion, yn Brighton iw groesawi.

Yn ail, mae cadarnleoedd Plaid cymru yn draddodiadol yn brysur fynd ar goll. Mae nifer o gefnogwyr naturiol y Blaid sydd yn ifanc yn byw yn y trefi a’r dinasoedd. Gwn am nifer ohonynt a bleidleisiodd yn dactegol hefyd, am nad yw presenoldeb y blaid mor gryf yn ein trefi mawr a dinasoedd. Ond mae yna bleidlais soffistigedig gwrth-Blaid cymru wedi datblygu yn y gorllewin, yn y cadarnleodd traddodiadol. Does dim un man lle mae hyn yn amlycach nag yng Ngheredigion.

Mae myfyrwyr yn ffactor yng Ngheredigion – ond gadewch i ni beidio ag esgus eu bod nhw’n 8,000 o ffactor! Disgynodd y bleidlais Lafur yn llwyr, a methodd y bleidlais geidwadol a chynyddu, er gwaethaf y swing Prydeinig – aeth pleidleisiau yr holl bleidiau Prydeinig drosodd i’r Lib dems.

Yn yr un modd yn Nwyfor Meirionnydd, mae’r Cediwadwyr wedi dechrau casglu ynghyd y bleidlais gwrth-Blaid Cymru. Tra yn y gorffennol mae cefnogwyr pleidiau eraill wedi bod yn fodoln rhoi eu pleidlais i’r Blaid, y tro yma ry’n ni wedi gweld dechrau ffurfio cymuned wleidyddol gwrth Blaid Cymru yng ngogledd orllewin cymru, ac mae hon yn gymuned sydd am fynd o nerth i nerth – mi gasglith hi’r bleidlais ryddfrydol a Llafur.

Yn yr ardaloedd hynny ble y gwyddom yn ol y cyfrifiad diwethaf fod y mwyafrif sydd yn byw yno yn gweld eu hunen yn Gymry/wedi eu genu yng Nghymru, gwelwyd fod pleidlais y Blaid wedi cynyddu i raddaugyda swing tuag at y Blaid – Cynon, Llanelli, Rhondda, ond dwi ddim yn credu fod yna batrwm pendant yma eto.

Mae natur demograffeg Cymru yn newid yn sydyn iawn. Mae teyrngarwch pobl yn newid oherwydd hyn, ac mae ‘identity’ Cymry yn enwid. Efallai yn wleidyddol fod pobl yn barotach ac yn fwy cyfforddus i gydnabod eu hunen yn ‘Gymry AC yn Brydeinwyr’ – yr enghraifft amlycaf o hyn yn wleidyddol yw’r gwahaniaeth rhwng etholiadau Cynulliad a San Steffan. Efallai’n wir fod hynny’n wir am yr ardaloedd mwyaf poblog, ond rwy’n credu fod newidiadau mwy sylfaenol ar droed i gymunedau gorllewin Cymru sydd yn ei dro yn effeithio ar bleidlais Plaid Cymru.

Nawr wrth gwrs mae dweud hyn fel petawn yn cymryd yn ganiataol fod pob Cymro Cymraeg o orllewin cymru yn gefnogol i Blaid cymru. Tra fod hyn yn ei gyfanrwydd yn anghywir, fel gosodiad cyffredinol mae ystadegau yn profi’r honiad yn lled gywir.

Tra mewn etholaethau eraill mae’r brwydr ddwy blaid draddodiadol (Llafur v tori) yn prysur ddatblygu yn frwydr tair neu hyd yn oed pedair plaid; yng nghadarnleoedd traddodiadol y Blaid mae’n mynd yn frwydr rhwng dwy blaid – Ceredigion Plaid v Lib; Dwyfor/Meirion Plaid v Tori; Caerfyrddin Plaid v Llafur (mae Ynys Mon yn eithriad i BOB rheol), y patrwm amlwg yw mae brwydr rhwng y cysyniad o Gymru fel cenedl a hawl Cymru fel cenedl i hunanreolaeth (Plaid) v. Prydeinidod yw’r frwydr.

Nawr o feddwl yn amgenach am hyn, dylai hyn fod yn frwydr iw chroesawi i ni ym Mhlaid cymru – DYMA wedi’r cwbl yw rasion d’etre Plaid. Yn y genhedlaeth ddiwethaf mae’r Blaid wedi gorfod addasu eu gwleidydda i ymddangos yn fwy perthnasol ar faterion polisi, am nad oedd y cwestiwn cenedlaethol ar feddyliau pobl o gwbl.

Yr hyn sy’n amlwg yma yw, yng ngorllewin Cymru oleiaf, FOD y cwestiwn cenedlaethol ar feddyliau pobl, ac mae dyma sy’n eu cymell i bleidleisio. NID yr economi, NID Mewnfudo Ewropeaidd/Ymgeiswyr Lloches; NID yr amgylchedd, ond y frwydyr genedlaethol.

Dyma Lwyfan naturiol y Blaid – dyma’r ddadl fawr yr y’n ni wedi bod yn aros amdano, i’w hennill.

Yn anffodus dyn ni ddim wedi sylweddoli hynna eto, oherwydd yn Nwyrain Cymru y brwydrau gwleidyddol yw’r brwydrau bara menyn, fel petai.

Os am ad-ennill Ceredigion, Mon, a sicrhau Caerfyrddin a Dwyfor Meirionnydd Rhaid i ni fynd i’r afael a’r cwestiwn cenedlaethol ac ennill y ddadl honno.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Yr Etholiad

Postiogan Lorn » Gwe 07 Mai 2010 1:45 pm

Dyma fy nadansoddiad bras i o'r noson (yn bennaf o ran y Blaid).

Yn gyffredinol yng gyntaf, siomedig iawn i Blaid Cymru yn fwy na'r 3 plaid mwyaf arall yng Nghymru. Heb unrhyw amheuaeth y buddugwyr oedd Llafur, gyda'r Ceidwadwyr yn ail bodlon ac yna'r Dem Rhydd a Phlaid Cymru.

Roedd hon yn frwydr anodd iawn i Blaid Cymru am nifer o resymau:

1. I gychwyn dwi'n credu bod beio mewnfudo yn pointless, ac yn y pendraw arwain at fethiant parhaus bydd o. Does na'm byd i'w ennill o ddweud "y rheswm naethon ni golli oedd oherwydd Saeson yn dod yma i fyw", be newidith ? Gwastraff amser llwyr fydd o.

2. Dadleuon ar y teledu. Heb unrhyw amheuaeth cawsant effaith amlwg iawn yng Ngheredigion (ond nid dyma'r unig ffactor - soniai am hyn wedyn), ond hefyd ar draws Cymru ble cafodd bleidlais potensial y Blaid ei gwasgu o sawl cyfeiriad - dyma pam bu i'r Blaid ddod yn 4ydd siomedig yn Aberconwy, 3ydd yng Ngorllewin Clwyd, ac yn 2il ar Ynys Môn. Mae angen gweithio ar frys i sicrhau bod hyn ddim yn gallu digwydd eto - nid drwy geisio eu gwahardd o reidrwydd ond drwy ddomiwnyddu ac annog mathau newydd a mathau eraill o gyfarthrebu etholiadol.

3. Ofn y Toriaid. Mi gafodd Llafur lot fawr o lwyddiant ar lawr gwlad yn ei ardaloedd traddodiadol yng Nghymru gan gynnwys Llanelli a rhannau o Ynys Môn drwy bwysleisio bygythiad y Ceidwadwyr, mi darodd hyn dant gyda'r pleidleiswyr - doedd unman yn fwy amlwg nag Blaenau Gwent gyda hyn. Dyma pham gadwodd Llafur hefyd Dyffryn Clwyd a De Clwyd.

4. Coci - roedd y Blaid yn disgwyl ennill Ceredigion, Ynys Mon a Llanelli. Mewn gwirionedd doedd dim sail i gredu gallwn ennill Llanelli - adeiladu ydy'r gamp yma, fel yng Nghwm Cynon a Chastell Nedd - dyma dylai fod yn seddi targed tro nesa. O ran Ynys Môn, mae pawb yn wybodus mai lle rhyfedd ac anodd ar y diawl ydy fama yn wleidyddol, dwi'm yn credu bod gwendid yn yr ymgeisydd. Byddwn i'n reit gyfforddus (er nad ydw i'n byw nag yn pleidleisio yn yr etholaeth hon) yn gweld yr un ymgeisydd yn aros at yr etholiad seneddol nesaf ac yn codi ei broffil ar lawr gwlad, efallai fel Cynghorydd Sir.

5. Clymblaid y Cynulliad - dwi yn grediniol bod hwn wedi bod yn niweidiol ar ddau ffrynt. Ar yr un llaw yn yr ardaloedd Llafur doedd llawer ddim yn gweld pwynt pleidleisio dros y Blaid gan eu bod mor debyg i Llafur a gall Llafur gadw'r Toriaid allan o San Steffan, tra yn yr ardaloedd fel Aberconwy roedd modd ymosod ar Blaid Cymru gan eu bod eto mor debyg i Llafur ac yn gweithio â nhw, felly ar fai yn yr un modd a nhw am bopeth.

Ceredigion oedd y siom fwyaf, nid am na lwyddwyd i'w hennill - roeddwn yn credu hyn ers misoedd, ond yn y modd a gollwyd. Mae angen ymgeisydd newydd yma yn fy marn i a hynny ar frys. Mark Cole ydy trefnydd y Dem Rhydd yng Ngheredigion ac yn fy marn i, iddo fo mae'r diolch am iddynt ennill fama (synwn i ddim ei weld yn sefyllyn erbyn Elin Jones blwyddyn nesa....) mae o wedi gweithio'n galed iawn yno a wedi bod yn glyfar hefyd. Di ddim yn gyd-ddigwyddiad bod y Dem Rhydd, yn y flwyddyn cyn yr etholiad wedi bod yn feiri 3 o brif drefi'r Sir a wedi bod yn amlwg iawn yn y rol hynny. Mae angen sicrhau ymgeisydd sy'n amlwg yn lleol (Dai Jones Llanilar unrhyw un ? :winc: ) sy'n Gynghorydd lleol a sy'n mynd i allu gweithio gyda'r bobl leol a'r myfyrwyr. Tu hwnt i'r ymgeisydd mae angen i'r Blaid yn gyffredinol fod yn amlwg hefyd ar bob lefel, nid dim ond Elin Jones!

Ateb - dwi am weld y Blaid yn cychwyn ymgyrchu rwan ar gyfer yr Etholiad nesaf. Gyda senedd grog mae tebygrwydd mawr na fydd mewn 5 mlynedd, efallai mewn 2 felly rhaid gweithredu rwan. Mae'r etholiadau lleol yn bwysicach nag erioed rwan yng Nghymru. Mae angen bod yn greadigol ac adnabod problemau posib cyn iddynt ddod yn broblemau - dyma ddigwyddodd hefo'r dadlaueon ar y teledu. Y peth olaf dylid ei wneud ydy mynd yn nol i wneud yr hyn mae'r Blaid YN dda ar ei wneud - edrych i fewn ar ein hunain yn ormodol a rhoi'r bai ar yr arweinyddiaeth a charfanau o fewn y Blaid. Mi geisith pleidiau eraill wneud hyn, rhaid i ni fod yn hyderus.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Yr Etholiad

Postiogan Cardi Bach » Gwe 07 Mai 2010 3:09 pm

Lorn a ddywedodd:1. I gychwyn dwi'n credu bod beio mewnfudo yn pointless, ac yn y pendraw arwain at fethiant parhaus bydd o. Does na'm byd i'w ennill o ddweud "y rheswm naethon ni golli oedd oherwydd Saeson yn dod yma i fyw", be newidith ? Gwastraff amser llwyr fydd o.


Sut mae'n pointless a sut y bydd e'n arwain at fethiant parhaus? Mae'n ffaith y mae'n rhaid mynd i'r afael a hi. Dyw trafod mewnfudo ddim o reidrwydd yn golygu fod yn rhaid cynnal trafodaeth negyddol, BNPaidd. Mae meddwl fod pob trafodaeth am fewnfudo yn gorfod bod yn negyddol yn dangos grym y ffasgwyr ar ein gwleidyddiaeth; yn golygu ein bod ni'n ymateb iw hagenda hwy; ac yn golygu ein bod ni yn osgoi trafod pethau pwysig tra eu bod nhw yn gwneud 'political capital' trwy fod yn hilgwn.

Mae posib troi'r ddadl ben i waered a meddwl am sut i goleddu'r drafodaeth am fewnfudo (yn yr achos yma mewnfudo o Loegr i gefn gwlad Cymru) a throi'r peth i'n mantais. Ond dyw hynny ddim wedi cael ei wneud.

Nid yr ateb yw osgoi'r drafodaeth yn llwyr. Dyma fyddai yn fethiant.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Re: Yr Etholiad

Postiogan Josgin » Gwe 07 Mai 2010 5:13 pm

Dwi'n cytuno Cardi- dehongliad craff iawn. Mae gan y mewnfudwyr 'critical mass ' pellach . Ni chredaf mai effaith y ddadl deledu yn unig sydd
Cytunaf gyda Cardi Bach - mae'r blaid bellach yn gorfod amddiffyn seddi'r Gorllewin , lle buasai'n ystyried ehangu i'r Dwyrain genhedlaeth yn ol. Mae hufen ieuenctid Cymru - yn sicr yn Mon, ac fe dybiwn i yng Ngheredigion hefyd, yn symud i Gaerdydd a'r cyffinau ac yn llwyr aneffeithiol a di-arweiniad yn wleidyddol.
Pwy oedd yn iawn ddeg mlynedd yn ol ? - Seimon Glyn , wrth gwrs . Mae'n beth eironig fod pawb arwahani Blaid Cymru'n son am dorri ar /rheoli mewnfudo, ond hon yw'r blaid sydd wedi dioddef fwyaf o fudiant pobl yn ddi-amod.
Mae angen cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr ac arweinwyr ar y blaid , ond does wybod o lle y gwnant godi.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Yr Etholiad

Postiogan Duw » Gwe 07 Mai 2010 10:20 pm

Josgin a ddywedodd:Mae angen cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr ac arweinwyr ar y blaid , ond does wybod o lle y gwnant godi.


Mr. Charismatic i ymddeol yn syth, cyn bod y blaid suddo'n bellach o dan y tywod. Mr. Llwyd i gymryd yr awenau, tan bo gwleidydd cachboeth newydd yn dod i'r amlwg. Wylle dychweliff y mab afradlon o'r Amerig? Angen gwaredwr. Sori os ydy hwnna'n ypseto'r apologists, ond dyna fel mae.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Yr Etholiad

Postiogan Iwan Rhys » Sad 08 Mai 2010 12:19 am

O ran y gystadleuaeth ddarogan, oes na rywun am hawlio buddugoliaeth?

Mae'n haws i rywun hawlio, a wedyn rhywun arall yn anghytuno, nag i un person fynd drwy'r cyfan i benderfynu!

Fy ymateb i'n fras iawn i'r canlyniadau:

Fy ymateb cynta oedd siom enfawr. Wedyn, dechre meddwl falle ein bod ni (gefnogwyr Plaid Cymru) wedi bod yn or-hyderus. Mae bod yn uchelgeisiol yn iawn, ond roeddwn i, ac eraill mae'n siwr, bron yn hyderus y gallai'r Blaid gael 5-6-7 sedd.

Er ei bod wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd bellach bod canlyniadau'r Cynulliad a San Steffan yn go wahanol, mae leni wedi cadarnhau hyn yn bendant. Falle ein bod ni'n euog o feddwl mai 'swing voters' yw rhai sy'n pleidleisio Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad ac yn pleidleisio Llafur/Lib Dems yn San Steffan. Ond falle bod angen i ni ail edrych ar hynny. Falle nad 'swing voter' mohonynt. Mae'n edrych yn bosib bod na grwp mawr o bleidleiswyr sy'n solet iawn eu cefnogath i'r Blaid yn y Cynulliad ac i Lafur/Lib Dems yn San Steffan - nid 'swing voters' o gwbwl.

Ceredigion oedd y siom fwya, a'r anodda i'w deall. Byddai colli o hyd at 2,000 o bleidleisiau wedi bod yn siom, ond nid yn sioc. Ond 9,000?! O ble ddiawl daeth y rheina? Dwi o'r farn bod y Blaid wedi dewis yr ymgeisydd cywir yn Penri. Bachan lleol, nabod maes amaeth drwyddo-draw, nabod pobl leol yn dda, dod drosto fel 'un ohonon ni' sy'n bwysig yng Ngheredigion, weden i. Rwy'n gobeithio y gwneith Penri sefyll eto. Ond sgen i ddim syniad beth sydd angen ei wneud i ennill ma. Roedd pawb yn beio'r myfyrwwyr y tro dwetha. Does dim 9,000 o fyfyrwyr ychwanegol ar gofrestrau'r coleg ers 2005, felly sdim pwynt beio'r myfyrwyr. Mae rhywbeth arall o'i le. Ond does gen i ddim o'r ateb.

Ynys Mon. Er mai fyn hyn ro'n i'n pleidleisio leni, dwi ddim am gogio mod i'n gyfarwydd â gwleidyddiaeth Môn. Ond fel y gwyr pawb, mae dewis yr ymgeisydd cywir yn fwy allweddol fan hyn nag yn unrhyw etholaeth arall yng Nghymru. Dwi ddim yn nabod nac wedi cwrdd a Dylan Rees, felly galla i ddim roi barn arno fel ymgeisydd. Mae na ambell un yn y blogosffer Cymreig wedi awgrymu falle y galle Heledd Fychan drio yma y tro nesa. Merch o Fon yw hi'n wreiddiol, mae ei theulu'n dal i fyw yma, o ddilyn ei blog, mae ganddi feddwl craff iawn yn wleidyddol, ac mi wnaeth i redeg ymgyrch gref a llwyddiannus ym Maldwyn a hynny mewn cyfnod o ras galed iawn rhwng Lembit a Glyn. Sgwn i a fyddai ganddi ddiddordeb dychwelyd i Fon?

Caerfyrddin a Dinefwr. Mae rhai yn synnu mai dim ond 3,500 o fwyafrif gafodd Jonathan Edwards fan hyn. Ond dwi'n meddwl y gall Jonathan a'r Blaid fod yn hapus iawn gyda'r canlyniad. Wedi'r cyfan, dim ond mewn un etholiad (2005) y cafodd y Blaid fwyafrif mwy, ac roedd hynny'n benna oherwydd Adam Price. A dim ond 9 mlynedd sydd ers i'r sedd yma fod yn nwylo'r Blaid o gwbwl - hyd at 2001, roedd gan Lafur fwyafrif o dros 3,500.

A gwelwyd twf yng nghanran y Blaid yn rhai o ethaolaethau'r Cymoedd, er enghraifft Castell Nedd a Chwm Cynon - seddi targed posib i'r Blaid yn etholiadau'r Cynulliad 2011.

Dwi ddim yn arbennig o gyfarwydd gydag etholaethau Arfon, Aberconwy, a Meirion Dwyfor felly fe adwa i hynny yn y man.

O gofio fy mhwynt uchod ynglyn a 'non-swing voters' sy'n pleidleisio'n wahanol rhwng y Cynulliad a San Steffan, falle ei bod yn bryd i'r Blaid ddechrau ystyried faint yw gwerth rhoi cymaint o arian ac ymdrech i etholiadau San Steffan. A yw hi'n well cynnal 3 AS, targedu un neu ddwy etholdaeth arall, wedyn canolbwyntio'r arian a'r naratif ar etholiadau'r Cynulliad? Mae cymaint mwy y gallai'r Blaid wneud gyda 21 sedd yn y Cynulliad na chyda 7 sedd yn San Steffan. Ac mae 21 o fewn y 'realms of possibilities' ar lefel y Cynulliad.

Reit, pwy sydd am hawlio'r englyn?
Fel mollusc yn syrthio i gysgu, neu fel dwy falwen yn caru, siwr o bleser yw blasu'n ara' deg y gwyn a'r du.
Iwan Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 219
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 11:28 pm
Lleoliad: Wellington, Seland Newydd

Re: Yr Etholiad

Postiogan dewi_o » Sad 08 Mai 2010 4:59 am

Dwi ddim yn hawlio fuddugoliaeth on dwi'n meddwl cefais i 37 etholaeth yn gywir.

Ynys Mon, Maldwyn a Blaenau Gwent yn anghywir.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai