Gordon Brown wedi mynd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gordon Brown wedi mynd

Postiogan ceribethlem » Llun 10 Mai 2010 8:33 pm

Brown wedi ymddeol heddi. Synnu braidd fod neb wedi dweud dim fan hyd yma. Ydy hyn yn agor y drws i'r cyfuniad Lib-Lab? Clegg wedi ei wneud yn hollol amlwg nad oedd yn hapus i wneud cytundeb gyda Llafur tra fod Brown yn parhau fel arweinydd. Wedi hyn, wrth gwrs, mae Cameron wedi cynnig refferendwm o rhyw fath ar PR. A fydd hyn yn ddigon?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan Josgin » Llun 10 Mai 2010 8:46 pm

Credaf y buasai clymblaid Llaf/Rhydd yn fesur a fuasai'n bodloni Llafur yn y tymor byr, ac yn eu chwalu yn Lloegr yn y tymor hir.
Llafur a fuasai'n dioddef fwyaf o bleidleisio cyfrannol , a buasai prif wenidog anetholedig (arall) yn ymylu ar fod yn sarhad.
Cofier nad yw LLaf/Rhydd ynddo'i hun ddim yn ddigon i gael mwyafrif gweithredol. Buasai angen rhyw fath o gefnogaeth SNP/PC/SDLP
(y tri yn ddigon, efallai ) . Mae hyn yn creu clymblaid ansefydlog tu hwnt , anemocrataidd ar lefel Seisnig , manteisiol ar lefel Cymreig.
Mae llawer o aelodau Llafur a fuasai'n casau hyn, gan eu bod yn eu hanfod yn blaid gwrth-genedlaetholgar a chanolig .
Dwi'n hapus i weld Gordon Brown yn mynd . Saisgarwr a Saisgrafwr .
Ni chredaf y buasai'r glymblaid yma gyda bywyd hir , ac y bydd etholiad arall ymhen deunaw mis i ddwy flynedd. Buasai'n hynny'n drychinebus yn ariannol i bob plaid, arwahan i'r Ceidwadwyr. Credaf hefyd y buasai'r Ceidwadwyr yn cael mwyafrif clir yn yr etholiad hwnnw.
Y dewis diogel i Llafur yw bod yn wrthblaid swyddogol , ac i adael i'r Rhyddfrydwyr wneud eu gwaith drostynt drwy ffrwyno'r Ceidwadwyr oddi fewn, fel petai.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan ceribethlem » Llun 10 Mai 2010 9:16 pm

Josgin a ddywedodd:Credaf y buasai clymblaid Llaf/Rhydd yn fesur a fuasai'n bodloni Llafur yn y tymor byr, ac yn eu chwalu yn Lloegr yn y tymor hir.
Llafur a fuasai'n dioddef fwyaf o bleidleisio cyfrannol , a buasai prif wenidog anetholedig (arall) yn ymylu ar fod yn sarhad.

Ti'n credu fydde Llafur yn cael eu chwalu'n waeth na'r Ceidwadwyr? Glywes i rhyw ffaith bore 'ma fod y Ceidwadwyr byth wedi cael dros 50% o'r bleidlais boblogaidd, bydde hwnna'n eu niweidio nhw cryn dipyn hefyd.
O ran y sarhad am gael prif wenidog anetholedig, fi ddim yn credu hynny mewn gwirionedd. Pleidleisio dros AS lleol neu dros plaid penodol fyddwn ni gyda'r system fel ag y mae hi. Does dim cyfle i bleidleisio'n benodol ar gyfer prif wenidog (fel gellir gwneud mewn etholiadau arlywyddol UDA).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan Duw » Llun 10 Mai 2010 10:39 pm

Roedd Gordon Brown yn dioddef oherwydd na gafodd ei ethol i redeg y wlad. Wylle bydd yr un peth yn digwydd i arweinydd nesaf y Blaid Lafur, os yw'r glymblaid yn dod i fodolaeth. Fel athro gallaf gredu taw trychineb bydd cael y Ceidwadwyr yn newid polisiau a'n hamodau gwaith. Dwi ffili gweld clymblaid yr enfys yn llwyddo chwaith. Gormod o figitan dros y dorth. Hefyd dyw Lloegr ddim yn barod amdano - SNP/PC/SDLP yn cael llais uniongyrchol parthed polisi cenedlaethol (Prydeinig)? Mae'r bilsen honno'n rhy chwerw.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan Josgin » Llun 10 Mai 2010 10:43 pm

Mae pob plaid yn waglaw'n ariannol ar y funud, arwahan i'r ceidwadwyr. Mewn ail etholiad, tybiaf y buasent yn ennill llawer o seddi yn ol o'r rhyddfrydwyr yn maesdrefi de-ddwyrain Lloegr. Mae pob plaid yn ei chael hi'n anodd dygymod gyda'r sefyllfa bresennol , ac mae'r ansefydlogrwydd wedi parhau'n fwy na'r ansefydlogrwydd a ddilynodd etholiad Chwefror 1974 . Methu wnaeth ymgais Heath i glymbleidio gyda Rhyddfrydwyr Jeremy Thorpe bryd hynny, ac yr oedd yr economi mewn llanast gynddeiriog .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan dewi_o » Maw 11 Mai 2010 6:22 am

Etholiad arall cyn bo hir efallai. Os na wneith y Ceidwadwyr a'r Rhydd Dems cytuno heddiw gawn ni etholiad arall yn yr Hydref. Bydd gan y Blaid Lafur arweinydd newydd erbyn yr etholiad efallai yn fwy poblogaidd na Brown. Dwi di synnu bod dim son am Ieuan Wyn Jones yn mynd neu ydy'r Blaid yn aros am Adam Price i ddod nol o'r Amerig ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Gordon Brown wedi mynd

Postiogan Duw » Maw 11 Mai 2010 6:04 pm

dewi_o a ddywedodd:Etholiad arall cyn bo hir efallai. Os na wneith y Ceidwadwyr a'r Rhydd Dems cytuno heddiw gawn ni etholiad arall yn yr Hydref. Bydd gan y Blaid Lafur arweinydd newydd erbyn yr etholiad efallai yn fwy poblogaidd na Brown. Dwi di synnu bod dim son am Ieuan Wyn Jones yn mynd neu ydy'r Blaid yn aros am Adam Price i ddod nol o'r Amerig ?


'Da ti fynna Dew - bythdi bryd i Mr. Charismatic gilo.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron