gan Hogyn o Rachub » Llun 24 Mai 2010 8:55 am
Dwi'n meddwl mai be fydd yn digwydd ydi y bydd gwir agwedd y Torïaid yn ganolog o leiaf yn dechrau dod i'r fei. Mae 'na hen ddigon o amser i baratoi ar gyfer refferendwm hydrefol, y broblem ydi llusgo traed. I fod yn "deg" ar Cheryl Gillan 'does neb wedi llusgo traed ar fater y refferendwm yn fwy na Peter Hain, a tasa fo wedi actiwli gwneud y mymryn lleiaf o waith paratoi (yn hytrach nag edrych ymlaen ychydig fisoedd, rhagweld llywodraeth Geidwadol a chyfle gwych i'w chyfleu yn wrth-Gymreig) byddai ganddi ddim math o reswm i oedi, waeth pa mor dila'r eglurhad o ddiffyg amser.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?""Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"Y Rachub Rydd Gymraeg