Wi'n credu bod e'n hen bryd bod y ddadl yma yn dod i'r frig, Pam nad ydym ni'n ddigon gymwys yng Nghymru i gael yr un pwerau â'r Alban?
Pam bod rhaid i ni doncio'r garreg a dyfal parhau (ocê ma dihareb 'di cael bach o sbri fan hyn) Ch;mod dyfal donc a dir y garreg, wel rydym o hyd yn dyfal doncio yng Nghymru ond dyw'r garreg ddim yn torri :/ Ond yn yr Alban ma nhw'n cael pob un dim, Mae'n hen bryd i ni wrthod sut mae'r gyfundrefn Prydeinig(Seisnig) yn trin Cymru a mynnu ein bod ni'n cael penderfynu yn hytrach na gwleidyddion bondigrybwyll sydd yn credu eu bod nhw'n gwybod yn well na phobl Cymru beth sydd orau i Gymru.