gan Hen Rech Flin » Llun 12 Gor 2010 12:20 am
Os ydy o'n cael ei ddewis pob hwyl iddo, a gobeithio y bydd yn llwyddo i enill y sedd.
Rwy'n rhannu rhai o'r pryderon sydd wedi eu mynegi gan eraill. Mae'r Blaid eisoes wedi llosgi bysedd trwy ddewis ymgeiswyr am resymau amgen na'u cefnogaeth i'r achos cenedlaethol. Saga Oscar oedd yr un mwyaf amlwg. Ym 1979 roedd Ron yn wrthwynebydd i ddatganoli. Erbyn 1997 yfo oedd pensaer datganoli Cymru, sef yr un a roddodd Cynulliad gwan i ni tra fo'r Alban yn cael Senedd gref.
Mae yna ddadl parthed pwy ddwedodd bod datganoli yn broses yn hytrach na digwyddiad, a'i Ron neu Donald Dewar? Os mae Ron oedd yn gyfrifol rwy’n fawr obeithiol bod y Blaid wedi sicrhau bod Mr Davies bellach yn credu mai Annibyniaeth yw pen draw'r broses yna.
Gan fydd controfersi difa moch ddaear yn un o bynciau mawr etholiad 2011 - bydd rhaid i'r Blaid disgwyl lawer o watwar a sylwadau dan din am y polisi os bydd Ron ymysg yr ymgeiswyr; a bydd rhaid trefnu gwrth ymateb hwyliog sy'n lladd y mater ym mhell cyn dyddiad yr etholiad.