Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Postiogan Aerfen » Mer 18 Awst 2010 12:06 pm

Annwyl Gyfeillion,

Cysylltwch â'r ddolen gyswllt isod i allu darllen Blog newydd sbon i dynnu sylw'r byd tuag at y 'rheibio tir' diweddaraf sy'n cymryd lle yng Nghymru. Ai dyma gychwyn y diwedd i'r Genedl Gymreig?

Helpwch yr achos a fydd yn galluogi pobl Cymru i uno i wneud rhywbeth am hyn (cyn iddi fod yn rhy hwyr) drwy basio'r ddolen gyswllt ymlaen i bawb fyddai â diddordeb. Diolch. :ing:

http://tarianglyndwr.blogspot.com/
Aerfen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Gwe 26 Medi 2008 7:44 pm

Re: Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Postiogan bartiddu » Mer 18 Awst 2010 2:17 pm

Rhy hwyr, mae fy mhentre' wedi'i werthu :(
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Postiogan obi wan » Iau 19 Awst 2010 10:35 am

(1) Mae fy mhentre innau wedi'i werthu. Rhy hwyr!

(2) Agwedd arall ar y s^el fawr. Dyma hi'n fore'r tair A Seren eto, a'n plant galluocaf yn dylifo i Loegr. Yn iach iti, Gymru ! Rhaid i bopeth fynd !

(3) A'r drydedd agwedd. Twll lle dylai fod Plaid Wleidyddol Genedlaethol. Sain Tathan ! ... "Brad y Byd" ... Yr agwedd ddauwynebog at yr ysgolion gwledig ...

Be ydi'r ateb? Cyfaddefwch y gwir, does gan ddim un ohonom ddim syniad.

Ynteu oes gan aelodau'r Maes unrhyw syniad?
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Re: Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 19 Awst 2010 12:03 pm

Y bai ni ydi'r cyfan am fod yn genedl mor bitw. Nid yn anaml fy mod yn meddwl a ydi Cymru wir yn haeddu cael ei hachub, a ydi'r ymdrech wir o werth i genedl annheilwng. Dwnim wir.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Cymru...Y Sêl Fawr...Mae'n Rhaid i Bopeth Fynd!

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 08 Medi 2010 6:34 pm

Be di'r problem? Dan ninnau di gwerthu popeth yn ein gwlad i'r Americanwyr. :lol: Eniwe gwefan diddorol go iawn ond dwedwn i dy fod di'n preaching to the converted ar Maes-E.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai