gan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 01 Maw 2011 1:09 pm
Wylaf.
Wylaf, O Lyndŵr, dros y Cymry’n cadw stŵr. Mae’n amlwg yn anghywir i Gymro iwsho gair hir.
Deddfaist dithau: “Bydded dwy brifysgol!”, ond gwae hwynt-hwy a feiddient ddefnyddio’u dysg, neu fynnu gwellhâd ymysg trafodaethau dwys yr oes – Sdim ishio strancio, nacoes? – neu ddwyn goleuedigaeth drwy wir ddefnyddio’r heniaith.
Wylaf.
Wylaf, O Lyndŵr, dros yr holl rwgnach a’r stŵr. “Dydio ddim yn deg, nacdi, fod rhai’n fwy peniog na ni? Mae’n anghymreig, mae’n afiach, mae’n heintus! Gwell eiriau bach na geiriau hirion Seisnig sy’n gwneud brodorion yn ddig. Gwell frawddegau purion, clên sy’n llawn naturiol awen ein gwinllan, ‘r Eden eiddil, caer bychan olaf ein hil. Ymaith â’r crach-ymylol, Brâd y Llyfrau Llenyddol, sy’n meddwl bod hi’n ddigri traethodli mewn theori!”
Bolociaid.
Wylaf, Lyndŵr, dros bob un, yn wraig neu’n ŵr, sy’n codi’u annysgeidiaeth fel pinacl tynged iaith.
Ti’n erbyn dysg? Wel, gwranda: bron nad dim ond Derrida a Foucault all wir drafod barablu geidwadol, od y canu caeth a Barddas mewn dulliau nid anaddas; dim ond dealltwriaeth gain all achub gecru celain llên beryglus o blwyfol rhag esgyn fyny’i phen ôl.
Felly’r tro nesa yr ei di‘n grac dros glyfrwch elîtyn, cofia fod Owain yntau yn gwybod gwerth gwyddorau.
Ie, ie. Na fe.