Cymedrolwr: Mr Gasyth
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra.
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra.
ceribethlem a ddywedodd:Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra.
Ieeeeeeeeeeeeeeeeeeeei
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Hoffwn weld Dafydd El fel arweinydd nesaf Plaid Cymru. Profiadol. Galluog. Gwyrdd. Chwith. Ewropeaidd. Cynaladwyedd. Pragmataidd. Caiff gadw'r set yn gynnes hyd nes y daw Adam Price i arwain. Mae gan DET ambell i wendid e.e. arddull rhy rwysgfawr a bombastic o bosib tra'n cael ei gyfweld o flaen y camerau.
Ond ef, heb unrhyw amheuaeth ydi'r ymgeisydd gorau-hyd nes y daw AP i fywiogi'r Cynulliad.
A ydwyf yn difaru sgwennu negeseuon blaenorol? Na. Dim o gwbl. Politics is a rough old trade. Brawddegau hefo pinshad o halen. Darllen rhwng y llinellau. Mymryn o ddylanwad gobeithio.
'Roedd Plaid Cymru yn haeddu cael ei cholbio am beidio a delufro papur dyddiol (hefo'r ochr newydd technolegol angenrheidiol). Torri addewid ydi torri addewid. Dwi ddim eisiau clywed Dafydd El yn dweud pethau hurt fel "byw yng ngwlad y gwcw" eto. Dylai'r ysgolhaig feddwl a phwyllo cyn agor ei geg y tro nesaf. Gobeithio ei fod wedi dysgu gwers.
Ymlaen. Yn olaf, nid wyf i yn bersonol yn Bleidiwr!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai