Toris Bach Plaid Cymru...

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 24 Awst 2010 1:40 pm

Plaid Cymru ydi'r unig blaid sydd wedi cael fy mhleidlais yn y gorffennol. Serch hynny, sdwffio nhw...
'Rwyf wedi deffro a sylweddoli fod yna ormod o beth uffar o genedlaetholwyr doji iawn yn perthyn i'r blaid.

Lluchio bant y cyfle i gefnogi papur dyddiol Cymraeg? Gwarthus.

Rhai yn y blaid yn mynnu eu bod nhw yn blaid sosialaidd (gyda llwyth o Doris Bach yn aelodau)? Trin etholwyr fel ffyliaid...

Gobeithio y bydd cyfnod Adam Price yn UDA yn caniatau iddo a) weld y goleuni ac ymddiheuro am ddweud pethau gor-glyfar yn erbyn cael papur dyddiol Cymraeg- byddai gwefan yn cyd redeg ac ategu wedi bod yn bwysig hefyd b) cynllwynio i ddod nol i Gymru a chipio'r arweinyddiaeth- a chicio pob un wan jac o Doris bach y blaid allan!
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Ger Rhys » Maw 24 Awst 2010 2:31 pm

I fod yn deg, mae na bobl doji ym mhob plaid wleidyddol, asgell chwith neu asgell dde, felly mae hi. Sbia ar y stryd rwyt ti'n byw arno, dwi'm yn trystio hanner y bobl sydd ar fy un i beth bynnag.

Dwi'n ystyried fy hun fel un sy'n pwyso'n drwm i'r chwith a'n gefnogol iawn i'r Blaid a fedrai rhyw hanner gweld dy bwynt efo llwyth o doris bach yn aelodau o'r Blaid. Ond yr hyn mae dy ddadl yn fanna yn ei ofyn ydy 'a oes angen plaid genedlaetholgar asgell dde?' Nid dy deip BNP/UKIP ac ati, ond plaid wedi ei wneud o aelodaeth sy'n gweld yr haul yn codi'n uchel uwch ben y sector breifat ac ati a'n chwysu bob tro fydd y farchnad stoc yn disgyn hanner pwynt. Mae'n lwyr posib bod trafodaeth ar hwn wedi bod yn barod rhai blynyddoedd yn ol ar y maes (rhyw frith gof o un beth bynnag).

O ran papur dyddiol, wel roedd yn siom anferthol i bawb.
Dilyn hynt y cerrynt caeth
mae deilen fy modolaeth...
Rhithffurf defnyddiwr
Ger Rhys
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Llun 20 Meh 2005 12:59 pm
Lleoliad: Ar daith rhwng Dolgellau ac Aber

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 24 Awst 2010 2:38 pm

Dw i'm yn dallt am be ti'n sôn rili. Os wyt ti'n dweud bod y Blaid y blaid sosialaidd ac mai dim ond sosialwyr ddylai fod yn aelodau, iawn oce, ond byddai'r aelodaeth yn haneru dros nos o wneud hynny. Ar y llaw arall mae 'na garfan sosialaidd yn y Blaid sydd fel petaent ar genhadaeth i droi Plaid Cymru yn fersiwn o Hen Lafur, ac hefyd ochri'r Blaid â Llafur ar bob cyfle - rho i mi'r "toris bach" cyn nhw unrhyw bryd!

Mae 'na lot o aelodau o'r Blaid y mae eu hegwyddorion cenedlaetholgar yn amwys, dwi'n cytuno. Dwi'n meddwl ei fod yn broblem - ond daw'r rheini'n bennaf o'r adain sosialaidd, nid yr adain geidwadol! Dydi'r bleidlais genedlaetholgar ddim eto'n ddigon cryf i allu cynnal dwy blaid genedlaetholgar, a'r unig ffordd y gellir cael dewis cenedlaetholgar ar hyn o bryd ydi drwy blaid sy'n eglwys eang dan un nod cyffredin. Er, dydi pawb ddim yn cytuno ar y nodau cyffredin chwaith!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Aberblue » Maw 31 Awst 2010 9:57 pm

Yn hytrach na beio gwleidyddion am ddiffyg papur newydd dyddiol Cymraeg, beth am roi'r bai ble dylai fod - ar y Cymru Cymraeg sydd ddim ym prynnu Golwg, Y Cymro, Barn nag unrhyw bapur neu gylchgrawn Cymraeg?

Faint o gopïau o bapur dyddiol fyddai'n cael ei prynnu gan ddarllenwyr go iawn - h. y. nid gan gyrff, sefydliadau, llyfrgelloedd ayyb, ond gan bobol gyffredin? Pum cant? Saith gant? Prin digon i gynnal papur dyddiol!

A "taflu'r Toris mas o Blaid Cymru" pwy fyddai'n penderfynnu pwy sy'n "dori"?
Aberblue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 26 Meh 2007 5:37 pm
Lleoliad: Ceredigion

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 02 Medi 2010 1:29 pm

Aberblue- nid Plaid Cymru yn unig sydd ar fai am nad oes gennym bapur dyddiol ac wedi boddi wrth ymyl y lan. Tydw i erioed wedi gweld pethau mewn ffordd simplistig parthed ein methiant fel Byd Cymraeg i gael papur dyddiol Cymraeg. Ond dwi wedi dewis dechrau edefyn er mwyn rhoi chwip din i'r Party of Wales (pam lai?!). Os ydi rhywun arall eisiau dechrau edefyn arall sy'n lladd ar blaid arall yna croeso iddyn nhw wneud.

Seiat ar y we, rhywbeth "answyddogol", barn y stryd, chydig o falu cacen siocled... hefo pinshad o halen fel eisin ar y top :)

Ond mae'n bwysig iawn fod Cymry Cymraeg yn cael gwybod y caswir am Blaid Cymru: rwy'n eich annog i ail-ddarllen yr edefyn "Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg".
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Lorn » Sul 05 Medi 2010 7:51 am

Felly, Wylit pwy wyt ti'n awgrymu dylai person bleidleisio drosto felly? Pwy arall mewn bodolaeth gall newid hyn? Hawdd ymosod ar Blaid Cymru (yn hawddianol llawer o weithiau) ond tawel iawn ydy'r rhai sy'n dod i fyny hefo syniadau newydd call yn eu lle.

Dwi'n sylweddoli dy fod unwaith eto yn galaru methiant 'Y Byd' ond fel dywedwyd rhaid i'r bai hwn mewn gwirionedd orwedd wrth draed y Cymry Cymraeg sy'n methu a chefnogi y cyfryngau cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli. Mi rwyt ti dy hun yn cydnabod mewn edefyn arall nad wyt ti'n defnyddio ein prif gwasanaeth cyfyngau Cymraeg - "Pur anaml y bydda i yn gwylio S4C y dyddiau yma", mae'r maes teledu fel y maes papurau newydd ar draws Prydain yn dioddef cwymp mewn gwylwyr/darllenwyr.

Fel mai'n digwydd dwi'm yn credu bod Byd mor agos a hynny i'r lan pan suddodd - roedd y ffaith bod dyddiad lansio ar ol dyddiad lansio wedi cyrraedd a mynd heibio wedi peri i mi golli ffydd yn y fenter. Trist ein bod ni fel Cymry methu gwneud hyn ac unwaith eto yn dibynnu ar nawdd cyhoeddus. Tra fy mod yn bell o fod yn ffan o ddefnyddio'r we i gyhoeddi papurau newydd fel Golwg 360 ac i fod yn onest dwi'm yn ffan mawr o Golwg 360 (y BBC lot yn well) dwi'n bersonol yn gobeithio bod helyntion diweddar S4C, papurau newydd ayyb yn gyfle i edrych ar y cyfryngau yng Nghymru yn eu cyfanrwydd.
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 07 Medi 2010 10:08 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:rho i mi'r "toris bach" cyn nhw unrhyw bryd!

Ond cofia am DET- dywedodd fod rhai o gefnogwyr papur dyddiol Cymraeg (hefo gwefan!) yn byw yng ngwlad y gwcw.
Cofier geiriau Can i Gymru, Datblygu. Clasur o gan. Gogleisiol. Mae'n hen bryd i fwy o bobl ddechrau dinoethi yr ochr gachu i Blaid Cymru.

Wel, efallai fod DET yn gallu mwynhau darllen newyddion ar-lein bob bore (arian y trethdalwr yn talu am y cyfrifiadur??) mewn swyddfa grand a moethus, ond nid oes gen i swyddfa ac ni allaf fforddio gluniadur...

Ia wir, Hogyn o Rachub/Tunbridge Wells...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Lorn » Maw 07 Medi 2010 3:07 pm

Tyrd o 'ne Wylit, pwy wyt ti'n awgrymu yn lle PC felly?

Iawn i bobl feirniadu'r Blaid - dwi'n credu mai camgymeriad oedd y clymblaid yn bersonol, ond dwi'n dueddol o amau gwir cymhelliant pobl sy'n honi eu bod yn genedlaetholwyr ac yn annog bobl i bleidleisio dros blaid arall yn lle Plaid Cymru pan does na'm wir unrhyw blaid cenedlaetholgar arall gall wneud hyn.

Os nad wyt ti'n cefnogi S4C be sy'n dy wneud di mor siwr byddai'r Byd wedi llwyddo?
Lorn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2008 11:06 am

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 07 Medi 2010 6:37 pm

Be ffwc am DET? Dwi byth wedi ystyried y boi'n genedlaetholwr, ond "tori"? Y dyn symudodd y blaid i'r chwith, y Marcsydd mawr? Os rhywbeth mae o'n nodweddiadol o chwith gymharol anghenedlaetholgar Plaid Cymru! 'Sgen i ddim amheuaeth yn dweud mai'r rhai sydd tua'r dde yn y Blaid ydi'r rhai selocaf eu cenedlaetholdeb - dydi dy ddadl di ddim yn gneud sens!

Roedd y methiant i arwain at sefydlu Y Byd yn benllanw i mi ac mi adewish i Blaid Cymru yn ei sgîl. Baswn i ddim yn ailymuno rwan am amryw resymau ond dwi bellach o'r farn, ac yn fodlon cyfaddef, y gwnaed y penderfyniad cywir, er dwi'm yn meddwl dim o Golwg360 i fod yn onast. Faswn i'n ceisio dadlau mwy efo chdi ond, ar dystiolaeth yr uchod, does na'm pwynt!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

Postiogan ceribethlem » Iau 09 Medi 2010 7:19 am

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:... ond nid oes gen i swyddfa ac ni allaf fforddio gluniadur...

Eto, mi wyt ti'n llwyddo i falu cachu ar y wefan yma byth a beunydd!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron