Tudalen 2 o 3

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 4:03 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
ceribethlem- neges anneallus ac anwybodus gen ti unwaith eto!

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Mer 15 Medi 2010 7:56 am
gan Lorn
Na dwi'm yn meddwl Martyn, ti sy'n postio rwtch (eto). Sawl gwaith ti di cael dy daflu o'r safle yma am falu cachu?

Wyt ti am awgrymu wrthym bwy ddylwn ni bleidleisio drostynt felly?

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2010 12:35 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Democratiaid Rhyddfrydol efallai? Neu Plaid Sosialaidd Cymru?
Rhaid i Blaid Cymru gallio a deffro cyn y bydda i yn eu cefnogi eto.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Iau 16 Medi 2010 12:47 pm
gan Lorn
Democratiaid Rhyddfrydol? Wyt ti oddifri yn trystio nhw fwy nag Plaid Cymru parthed yr iaith Gymraeg? O holl bleidiau Cymru dyma'r blaid sydd i'w ymddiried leiaf o'r holl bethau yng Nghymru. Mi rwyt ti yn dy achos di wedi fwy neu lai cadanrhau yr hyn oeddwn i'n cyfeirio ato yn flaenorol - dwi'n amheus o unrhyw un sy'n anog pleidleisio dros blaid arall gan bod PC ddim yn neud digon dros yr iaith neu cenedlaetholdeb mond i gyfeirio at blaid unoliaethol sydd wedi gwneud bron dim yng Nghymru dros yr iaith.

Plaid Sosialaidd Cymru. Wel eto, plaid unoliaethol. Felly pam ddylai cenedlaetholwyr bleidleisio dros unoliaethwyr?

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Sad 22 Ion 2011 7:23 pm
gan dewimarstons
Ie, o son am y Byd - ble mae o rwan- mae nifer fawro fuddsoddwyr nad sydd wedi clywed dim gan Dyddiol Cyf ers dwy flynedd pan ddywydwyd y bwriadwyd ail syfydylu'r wefan a swyddfa a mynd ymlaen a'r gobaith yn yr hinsawdd ariannol iawn o gael papur.

Mae'r wefan yr un fath ers dros ddwy flynedd a dim BYD Wwedi digwydd.

Sianws nad oes gan DYddiol Cyf yr angen i ddweud wrth eu cyfranddalwyr beth sydd yn digwydd ac os nad oes dim cau'r cwmni. Dydw i ddim yn creud y caiff y cyfranddalwyr fawr o arian yn ol ond mater o egwyddor yw hyn.

Dyw'r ffaith fod Dyddiol Cyf yn trin ei chefnogwye ei hunan fel hyn ddim yn rhoi hyder o ran gweld Dyddiol Cyf yn rhedeg papur.
Onid y ffaith fod diffygion yng nghynllun busnes y Byd na roddwyd iddo arian?
Dewi.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 4:25 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
dewimarstons- ti wedi darllen dwy ysgrif wych gan DGJ yn Barn (Tachwedd llynedd a'r rhifyn cyfredol)? Gwych iawn yn fy marn i. Dweud un neu ddau o wirebau sy'n gallu bod yn ddipyn o dabw yn y byd Cymraeg ar brydiau.
Gyda llaw Hogyn o Rachub a Lorn, nid wyf wedi anghofio am eich negeseuon yma. Amser...dwi ddim isio brysio.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2011 12:23 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Y Faner- Baner ac Amserau Cymru. Gwener, Ionawr 4, 1985. Colofn Rhys Mwyn-”Oportiwnist slic o gyw-wleidydd pseudo sosialaidd sy’n pledio athroniaeth gwbwl ddi-wreiddiau”-felly disgrifwyd Dafydd Elis-Thomas gan Emyr Llywelyn, Adfer.
Mae'n posh hefo load o dosh,
Mae'n snobyddlyd ac yn gwisgo rel Tori
Mae'n pompous a mawreddog
Mae wedi llyfu a chrafu tin y Cwin ar sawl achlysur

Y boi yma'n llywydd y Cynulliad ac yn dewis gwneud sylwadau trahaus ac ymhongar yn erbyn criw o bobl sydd eisiau gweld gwell byd Cymraeg h.y. papur dyddiol?? Hollol warthus.

Ac hyd yn oed os ydi'r boi yma'n rhyw fath o Farcsydd neu Sosialydd cymharwch y boi yma hefo rhywun o wir safon fel e.e. Tony Benn (gwir sylwedd ar y chwith).
Gresyn nad yw'r Sais yma'n Gymro...

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2011 8:04 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Gresyn nad yw'r Sais yma'n Gymro...


Wyddoch chi be, fedra i ddim dallt, na fedraf wir, pam fod pobol fod Peter Hain yn cael y syniad fod yna elfen wrth-Seisnig yn chwarae rhan yn y ddisgwrs genedlaethol....

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Gwe 25 Chw 2011 1:50 am
gan zorro
Mae'n sustem ni yng Ngnymru dal yn bendant ynglwm â sustem San Steffan !!

Na ??

S4C yn cael ei reoli o DCMS
Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei reoli gan DCMS (via'r Cynuliad)
Ein Theatrau gan y DCMS (via'r Cynulliad)
Unrhyw beth 'da ni angen wneud er mwyn gwella ein sefyllfa - ( DCMS via Cynulliad)

Blah blah blah !!

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Gwe 25 Chw 2011 1:41 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Dafydd Iwanynyglaw- be yn union sy'n wrth-Seisnig ynglyn a fy mrawddeg? :?