Tudalen 3 o 3

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 2:12 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Ar y siawns dy fod yn gofyn y cwestiwn o ddifri WWL, a dwi jyst yn dyfalu fan hyn, dybiwn i y byddai rhai yn deud fod defnyddio enw grwp penodol fel disgrifiad gwatwarus o berson nad wyt ti'n ei hoffi (er, wrth gwrs, gan nad wyt yn sylweddoi mai methodoleg yw Marcsiaith go iawn, nid cyfres o gasgliadau penodol y gellir eu mesur, dwyt ti ddim yn deallt llawer o safbwyntiau Dafydd El), o reidrwydd yn ddibrisio'r grwp hwnnw hefyd. Does na'm ystyr rhesymegol yn y frawddeg watwarus "X ydi John" os nad ydi'r siaradwr yn meddwl fod X yn rhywbeth annerbyniol.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 4:27 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
:rolio: Neges crachddysgedig, ffugysgolheigaidd...yn fy atgoffa o rai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru (Cynog Dafis yn gallach) yn malu cachu mewn ffordd gor-glyfar, amaturaidd (adeg Brad Y Byd)...
Plaid Cymru yn tori addewid :wps:

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 4:55 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Ti di anghofio "hunanbarodi o'i arddull ei hun"*.

* Joc ar gyfer pobl sy'n gallu darllen Simon Brooks di hona, WWL - paid a pheoni dy feddwl bur, werinol am y fath grachddeallusdeb.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 1:09 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Wylaf.

Wylaf, O Lyndŵr, dros y Cymry’n cadw stŵr. Mae’n amlwg yn anghywir i Gymro iwsho gair hir.

Deddfaist dithau: “Bydded dwy brifysgol!”, ond gwae hwynt-hwy a feiddient ddefnyddio’u dysg, neu fynnu gwellhâd ymysg trafodaethau dwys yr oes – Sdim ishio strancio, nacoes? – neu ddwyn goleuedigaeth drwy wir ddefnyddio’r heniaith.

Wylaf.

Wylaf, O Lyndŵr, dros yr holl rwgnach a’r stŵr. “Dydio ddim yn deg, nacdi, fod rhai’n fwy peniog na ni? Mae’n anghymreig, mae’n afiach, mae’n heintus! Gwell eiriau bach na geiriau hirion Seisnig sy’n gwneud brodorion yn ddig. Gwell frawddegau purion, clên sy’n llawn naturiol awen ein gwinllan, ‘r Eden eiddil, caer bychan olaf ein hil. Ymaith â’r crach-ymylol, Brâd y Llyfrau Llenyddol, sy’n meddwl bod hi’n ddigri traethodli mewn theori!”

Bolociaid.

Wylaf, Lyndŵr, dros bob un, yn wraig neu’n ŵr, sy’n codi’u annysgeidiaeth fel pinacl tynged iaith.

Ti’n erbyn dysg? Wel, gwranda: bron nad dim ond Derrida a Foucault all wir drafod barablu geidwadol, od y canu caeth a Barddas mewn dulliau nid anaddas; dim ond dealltwriaeth gain all achub gecru celain llên beryglus o blwyfol rhag esgyn fyny’i phen ôl.

Felly’r tro nesa yr ei di‘n grac dros glyfrwch elîtyn, cofia fod Owain yntau yn gwybod gwerth gwyddorau.

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2011 5:03 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Y Byd- chei di ddim gwell teitl ar gyfer papur dyddiol cenedlaethol Cymraeg.
Cofiant Cyfnod- Weltanschauung gwar ag aeddfed. Crys-t- "un o bobol y byd"- sydd, yn y pendraw, yn bwysicach i mi na bod yn Gymro.
Eisteddfod Lerpwl a Y Byd. Pwysig iawn. Ni ddaru rhai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru werthfawrogi hyn yn fy marn bach i. Nyff sed. Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra. :D

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2011 6:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra. :D


:D yn wir!!

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2011 8:02 pm
gan ceribethlem
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra. :D

Ieeeeeeeeeeeeeeeeeeeei :lol:

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 8:19 pm
gan Hedd Gwynfor
ceribethlem a ddywedodd:
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Dwi'n "ymddiswyddo" o maes-e. Ta-ra. :D

Ieeeeeeeeeeeeeeeeeeeei :lol:


Mae wedi gwneud sawl gwaith, bydd e nôl! ;-)

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2011 1:07 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hoffwn weld Dafydd El fel arweinydd nesaf Plaid Cymru. Profiadol. Galluog. Gwyrdd. Chwith. Ewropeaidd. Cynaladwyedd. Pragmataidd. Caiff gadw'r set yn gynnes hyd nes y daw Adam Price i arwain. Mae gan DET ambell i wendid e.e. arddull rhy rwysgfawr a bombastic o bosib tra'n cael ei gyfweld o flaen y camerau.
Ond ef, heb unrhyw amheuaeth ydi'r ymgeisydd gorau-hyd nes y daw AP i fywiogi'r Cynulliad.

A ydwyf yn difaru sgwennu negeseuon blaenorol? Na. Dim o gwbl. Politics is a rough old trade. Brawddegau hefo pinshad o halen. Darllen rhwng y llinellau. Mymryn o ddylanwad gobeithio.

'Roedd Plaid Cymru yn haeddu cael ei cholbio am beidio a delufro papur dyddiol (hefo'r ochr newydd technolegol angenrheidiol). Torri addewid ydi torri addewid. Dwi ddim eisiau clywed Dafydd El yn dweud pethau hurt fel "byw yng ngwlad y gwcw" eto. Dylai'r ysgolhaig feddwl a phwyllo cyn agor ei geg y tro nesaf. Gobeithio ei fod wedi dysgu gwers.

Ymlaen. Yn olaf, nid wyf i yn bersonol yn Bleidiwr! :winc:

Re: Toris Bach Plaid Cymru...

PostioPostiwyd: Llun 19 Rhag 2011 5:19 pm
gan ceribethlem
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Hoffwn weld Dafydd El fel arweinydd nesaf Plaid Cymru. Profiadol. Galluog. Gwyrdd. Chwith. Ewropeaidd. Cynaladwyedd. Pragmataidd. Caiff gadw'r set yn gynnes hyd nes y daw Adam Price i arwain. Mae gan DET ambell i wendid e.e. arddull rhy rwysgfawr a bombastic o bosib tra'n cael ei gyfweld o flaen y camerau.
Ond ef, heb unrhyw amheuaeth ydi'r ymgeisydd gorau-hyd nes y daw AP i fywiogi'r Cynulliad.

A ydwyf yn difaru sgwennu negeseuon blaenorol? Na. Dim o gwbl. Politics is a rough old trade. Brawddegau hefo pinshad o halen. Darllen rhwng y llinellau. Mymryn o ddylanwad gobeithio.

'Roedd Plaid Cymru yn haeddu cael ei cholbio am beidio a delufro papur dyddiol (hefo'r ochr newydd technolegol angenrheidiol). Torri addewid ydi torri addewid. Dwi ddim eisiau clywed Dafydd El yn dweud pethau hurt fel "byw yng ngwlad y gwcw" eto. Dylai'r ysgolhaig feddwl a phwyllo cyn agor ei geg y tro nesaf. Gobeithio ei fod wedi dysgu gwers.

Ymlaen. Yn olaf, nid wyf i yn bersonol yn Bleidiwr! :winc:

Fi'n anghytuno, fi'n credu mai cam yn ol fyddai cael Dafydd El. Yn arbennig gan fod yr SNP yn gwthio am ryddid yn yr Alban tra bod Dafydd El yn dweud nad yw'n credu ddylai Cymru fod yn annibynnol. Fi'n derbyn fod y term annibynnol yn un od, ac mewn gwirionedd does neb yn y byd yn annibynnol, ond dadl semantic yw hwnna braidd.