Tudalen 1 o 1

Swyddfa Pasport

PostioPostiwyd: Sad 09 Hyd 2010 5:21 pm
gan Duw
Felly, dyma Cameron yn dechrau dadgysylltu'r wlad. Wyndran pa mor hir bydde fe. Trychineb 300 o swyddi fel dwi'n deall. Er, doniol oedd clywed Peter 'Pencampwr yr Iaith' Hain yn sôn faint o ergyd oedd hyn i'r iaith Gymraeg. Twlsyn.

Wel, bydd hwn yn sicr yn ware i ddwylo'r glymblaid Gymreig. A fyddwn ni'n gallu hawlio ffurflenni yn y Gymraeg nawr? Siarad â rhywun trwy'r Gymraeg?

Re: Swyddfa Pasport

PostioPostiwyd: Sul 10 Hyd 2010 7:13 am
gan Nanog
Pam cau yr un yng Nghymru?

http://maps.direct.gov.uk/LDGRedirect/M ... #mapanchor

Mae un yn Llundain. Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw eisiau symud swyddfeydd allan o Lundain i lefydd rhatach. Cnoc i'r economi leol yn ardal Casnewydd fyddwn i'n meddwl.

Mae hyn yn wers......peidied neb ddibynnu ar y llywodraeth am ei swydd nac unrhyw beth arall yn y pen draw, yn enwedig llywodraeth Seisnig.