Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Postiogan tommybach » Maw 14 Rhag 2010 1:02 pm

Delwedd



Tra bod yr Alban yn un ‘rhanbarth’ ar ei ben ei hun, mae Cymru wedi ei dorri yn dri. Yn ôl yr ymchwil roedd pobol o ogledd Cymru yn fwy tebygol o ffonio Lerpwl a Manceinion na Chaerdydd.

Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw wedi edrych ar rhif teleffon pob galwad a rhif teleffon yr ardal oedd yr alwad yna’n mynd iddo er mwyn creu’r map.

Yn ôl y map mae de Cymru a Cheredigion yn un ‘ardal’ – ond gan rhannau o Bowys fwy o gysylltiadau gyda dinas Birmingham na gweddill Cymru.

Yn ôl yr ymchwil roedd 77% o alwadau o fewn yr Alban yn aros o fewn y wlad. Ond roedd llai nag 60% o alwadau Cymru yn aros yn y wlad.

“Mae'r gwahaniaeth rhwng yr Alban a Chymru yn drawiadol,” meddai Carlo Ratti, un o awduron yr ymchwil.

“Mae'r Alban ar wahân i weddill Prydain - dim ond 23.3% o alwadau sy’n mynd a dod i weddill y wlad.

“Ar y llaw arall, er gwaethaf treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru, mae yna gysylltiadau llawer cryfach gyda’u cymdogion yn Lloegr.”


Annibyniaeth i Wlad yr Hwntws. Mae'n embarrassing rhannu gwlad efo West Brymiland/Greater Merseyside. Sori bois, mae'n rhaid cicio chi mas (oni bai am George North wrth gwrs). :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
tommybach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Iau 01 Hyd 2009 11:32 pm

Re: Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Postiogan Nanog » Maw 14 Rhag 2010 10:56 pm

Gweles ti erthygl yn y Western Mail am hyn? Roedd e'n fel ar fysedd y Llafurwr Peter Stead.

“Bristol and Cardiff both have small airports. If there was a major Bristol Cardiff airport, it could have been a major airport in terms of its closeness to London.

“The Welsh National Opera also serves Bristol, had it not been for devolution it could have been based in both cities





http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... -27806819/

Beth yw'r ffws? Mae pawb yn gwybod ein bod ni'n byw yn EnglandandWales. :)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 18 Rhag 2010 11:41 pm

Ble mae prif ddinas Lloegr? Yn y De-Ddwyrain.
Ble mae prif-ddinas Cymry? Yn y De-Ddwyrain.
Ble mae prif ddinas yr Alban? Yn y De-Ddwyrain.

Fel mae'n digwydd, does na ddim lot o'r Alban sy'n nes at Loegr nag at Gaeredin - ac does na ddim lot o ddinasaoedd mawr nes i chi gyrraedd Castellnewydd neu Fanceinion. Felly, mae hyd yn oed pobl sy'n byw yn Ne'r Alban yn tueddu at Gaeredin (neu Lasgau) yn hytrach na llefydd yn Lloegr.

Ond yng Nghymru - wel, mae'r De wrth gwrs yn nes at Gaerdydd nag at Fryste ayyb. Ond yng Nganolbarth Cymru mae nhw'n nes at Firmingham. Ac yn y Gogledd Lerpwl.

Felly, does na ddim byd sinistr am hyn - dim ond mater o ble mae;r dinasoedd mawr.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Postiogan glyn roberts » Sul 19 Rhag 2010 11:46 pm

Yma yn Llyn mae cymaint o fewn fudo yn digwydd , o ddinasoedd fel Caer , Lerpwl a Maenceinion fel nad yw yr adroddiad yn syndod o gwbwl. Mae yna amrhyw o gymunedau yn Llyn sydd gyda llai na hanner y tai ym meddiant pobl leol.Pe buasai perchenogion y tai haf a phobl sydd wedi dod yma i ymddeol ond yn ffonio eu teuluoedd yn Lloegr un waith yr wythnos buasai yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ystadegau ffonio.
glyn roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 05 Chw 2009 10:38 am

Re: Cymru ‘yn dair rhanbarth ar wahân’

Postiogan tommybach » Llun 20 Rhag 2010 4:31 pm

Scowsars bach... Calm down! Calm down!
Tynnu coes oeddwn i :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
tommybach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Iau 01 Hyd 2009 11:32 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai