Tra bod yr Alban yn un ‘rhanbarth’ ar ei ben ei hun, mae Cymru wedi ei dorri yn dri. Yn ôl yr ymchwil roedd pobol o ogledd Cymru yn fwy tebygol o ffonio Lerpwl a Manceinion na Chaerdydd.
Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw wedi edrych ar rhif teleffon pob galwad a rhif teleffon yr ardal oedd yr alwad yna’n mynd iddo er mwyn creu’r map.
Yn ôl y map mae de Cymru a Cheredigion yn un ‘ardal’ – ond gan rhannau o Bowys fwy o gysylltiadau gyda dinas Birmingham na gweddill Cymru.
Yn ôl yr ymchwil roedd 77% o alwadau o fewn yr Alban yn aros o fewn y wlad. Ond roedd llai nag 60% o alwadau Cymru yn aros yn y wlad.
“Mae'r gwahaniaeth rhwng yr Alban a Chymru yn drawiadol,” meddai Carlo Ratti, un o awduron yr ymchwil.
“Mae'r Alban ar wahân i weddill Prydain - dim ond 23.3% o alwadau sy’n mynd a dod i weddill y wlad.
“Ar y llaw arall, er gwaethaf treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol Cymru, mae yna gysylltiadau llawer cryfach gyda’u cymdogion yn Lloegr.”
Annibyniaeth i Wlad yr Hwntws. Mae'n embarrassing rhannu gwlad efo West Brymiland/Greater Merseyside. Sori bois, mae'n rhaid cicio chi mas (oni bai am George North wrth gwrs).