Dejavu y lib dems/plaid..

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dejavu y lib dems/plaid..

Postiogan MELOG » Sul 23 Ion 2011 2:33 am

Rhywyn yn teimlo dejavu bod y lib dems yn troi'n 'ast' ir toriaid ac yn cyfaddawdu eu holl gwerthoedd (oeddyn nhw am diddymu ffioedd o fewn 6 mlynedd!! am joc1) Dejavu efo sefyllfa ni, y clymblaidd llafur a plaid, dim 'y byd' dim mesur iaith a unrhyw sylwedd o ran hawliau, a ma brand nhw hyd yn oed wedi troi o'r ddraig goch nath fyta'r ddraig wen i flodyn bach melyn ponsy! Be da chi feddwl?
'Marw i fyw mae'r haf -o hyd, gwell wyf o'i golli hefyd!' - ploncar
MELOG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Maw 26 Hyd 2010 10:15 pm

Re: Dejavu y lib dems/plaid..

Postiogan Gwen » Llun 24 Ion 2011 2:21 pm

Y Triban oedd hen logo Plaid Cymru, nid y Ddraig Goch (er bod y ddraig yn rhan o fersiwn diweddara'r Triban). Ac mi roedd yr ailfrandio wedi digwydd cyn bod son am glymbleidio.
Golygwyd diwethaf gan Gwen ar Llun 24 Ion 2011 2:31 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dejavu y lib dems/plaid..

Postiogan Gwen » Llun 24 Ion 2011 2:28 pm

O ia... dwi ddim yn cytuno chwaith, yn bersonol. Dwi ddim yn meddwl fod llawer o gymhariaeth, a bod Plaid Cymru wedi bod (ac wedi cael eu *gweld*) yn rhan llawer mwy llafar o'r glymblaid yng Nghymru na'r Lib Dems yn San Steffan, a dydw i ddim yn credu bod eu cefnogwyr wedi eu siomi run fath. I ryw raddau, mae'n siwr, ac ar adegau fwy na'i gilydd, ond ar y cyfan 'lly... Dwi'n meddwl y gwneith yr etholiad adlewyrchu hynny. Gawn ni weld.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dejavu y lib dems/plaid..

Postiogan Josgin » Llun 24 Ion 2011 5:42 pm

Gweler fy sylw i yng nghylch yr athrawon

viewtopic.php?f=88&t=28876
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Dejavu y lib dems/plaid..

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 26 Ion 2011 2:53 am

Mae'r ddwy glymblaid yn gwbl wahanol.

Y gwahaniaeth mwyaf, wrth gwrs, yw statws y pleidiau o fewn y clymbleidiau. Roedd dewis (ar bapur os nad mewn egwyddor) i Blaid Cymru dyfod yn brif blaid y Llywodraeth yn 2007, pe bai wedi mynd am yr opsiwn Enfys; doedd dim modd i 'r Rhyddfrydwyr ffurfio clymblaid o'r fath yn San Steffan.

Yn ail, gan fod clymblaid / cytundeb yn llawer mwy tebygol yn y Bae nag ydyw yn San Steffan mae'r pleidiau yn paratoi am y posibilrwydd o flaen llaw, rhywbeth na wnaed gan y ddwy brif blaid llynedd.

Yn drydedd mae'r pwysau i gael llywodraeth i fwcl yn San Steffan yn llawer mwy nag ydyw i ffurfio llywodraeth yn y Bae. Prin fod y marchnadoedd byd eang am gael eu heffeithio gan ddiffyg cytundeb yn y Bae am dri mis neu ragor. Bydda fod heb lywodraeth yn Llundain am gyhyd yn cael effaith drychinebus ar y farchnad.

Oherwydd y gwahaniaethau yn yr amgylchiadau mae cytundeb clymblaid Llundain yn llawn o gyfaddawdau o fewn polisi, tra fo Cymru'n Un yn cynnwys polisïau llawn, di gyfaddawd, gan y naill blaid a'r llall.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron