gan Hen Rech Flin » Mer 26 Ion 2011 2:53 am
Mae'r ddwy glymblaid yn gwbl wahanol.
Y gwahaniaeth mwyaf, wrth gwrs, yw statws y pleidiau o fewn y clymbleidiau. Roedd dewis (ar bapur os nad mewn egwyddor) i Blaid Cymru dyfod yn brif blaid y Llywodraeth yn 2007, pe bai wedi mynd am yr opsiwn Enfys; doedd dim modd i 'r Rhyddfrydwyr ffurfio clymblaid o'r fath yn San Steffan.
Yn ail, gan fod clymblaid / cytundeb yn llawer mwy tebygol yn y Bae nag ydyw yn San Steffan mae'r pleidiau yn paratoi am y posibilrwydd o flaen llaw, rhywbeth na wnaed gan y ddwy brif blaid llynedd.
Yn drydedd mae'r pwysau i gael llywodraeth i fwcl yn San Steffan yn llawer mwy nag ydyw i ffurfio llywodraeth yn y Bae. Prin fod y marchnadoedd byd eang am gael eu heffeithio gan ddiffyg cytundeb yn y Bae am dri mis neu ragor. Bydda fod heb lywodraeth yn Llundain am gyhyd yn cael effaith drychinebus ar y farchnad.
Oherwydd y gwahaniaethau yn yr amgylchiadau mae cytundeb clymblaid Llundain yn llawn o gyfaddawdau o fewn polisi, tra fo Cymru'n Un yn cynnwys polisïau llawn, di gyfaddawd, gan y naill blaid a'r llall.