Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer fawr iawn o straeon wedi ymddangos yn y wasg, sy'n tanseilio perfformiad y Llywodraeth(au) ers datganoli yn y meysydd sydd wedi datganoli yn enwedig Addysg a Iechyd, yn ogystal a'r Economi.
Dwi'n gwybod bod Llywodraeth y Cynulliad, a'r Cynulliad fel Corff yn ddau beth gwbwl wahanol, ond nid yw'r ffin mor amlwg i mwyafrif o bobl Cymru.
A yw hyn yn ymgais bwrpasol gan rhywrai i danseilio hygrededd y Llywodraeth/Cynulliad a rhoi ergyd i'r ymgyrch am fwy o bwerau? Dwi'n gweld e'n rhyfedd bod cymaint o straeon fel hyn wedi ymddangos yn ystod y dyddie/wythnosau diwethaf, ar yr un pryd ag y mae'r ymgyrchu yn dechrau...
Dyma rhai straeon yn y dyddiau diwethaf:
Ysgolion: Y bwlch wedi tyfu - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373662.stm
Safonau ysgolion: 'Lle i wella' - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 372084.stm
Amseroedd ymateb o dan y lach - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373197.stm
Ac yn yr wythnosau diwethaf mae són bod Cymru ar waelod y tabl o ran canlyniadau disgyblion, llai o ganran o ddisgyblion Cymru yn cael lle mewn Prifysgolion, Economi Cymru yn perfformio'n waeth na gweddill Prydain, Mwy o aros am driniaeth yng Nghymru na Lloegr ayb ayb...