Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwriadol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwriadol?

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 26 Ion 2011 10:30 am

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer fawr iawn o straeon wedi ymddangos yn y wasg, sy'n tanseilio perfformiad y Llywodraeth(au) ers datganoli yn y meysydd sydd wedi datganoli yn enwedig Addysg a Iechyd, yn ogystal a'r Economi.

Dwi'n gwybod bod Llywodraeth y Cynulliad, a'r Cynulliad fel Corff yn ddau beth gwbwl wahanol, ond nid yw'r ffin mor amlwg i mwyafrif o bobl Cymru.

A yw hyn yn ymgais bwrpasol gan rhywrai i danseilio hygrededd y Llywodraeth/Cynulliad a rhoi ergyd i'r ymgyrch am fwy o bwerau? Dwi'n gweld e'n rhyfedd bod cymaint o straeon fel hyn wedi ymddangos yn ystod y dyddie/wythnosau diwethaf, ar yr un pryd ag y mae'r ymgyrchu yn dechrau...

Dyma rhai straeon yn y dyddiau diwethaf:
Ysgolion: Y bwlch wedi tyfu - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373662.stm
Safonau ysgolion: 'Lle i wella' - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 372084.stm
Amseroedd ymateb o dan y lach - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373197.stm

Ac yn yr wythnosau diwethaf mae són bod Cymru ar waelod y tabl o ran canlyniadau disgyblion, llai o ganran o ddisgyblion Cymru yn cael lle mewn Prifysgolion, Economi Cymru yn perfformio'n waeth na gweddill Prydain, Mwy o aros am driniaeth yng Nghymru na Lloegr ayb ayb...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Gwen » Mer 26 Ion 2011 2:18 pm

Mae'n gwneud i ti feddwl...
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Sioni Size » Mer 26 Ion 2011 3:30 pm

Difyr. doedd dim o'r straeon negyddol yma flwyddyn yn ol.

Ar fater arall, byddai sinig yn nodi fod amser y briodas frenhinol yn arwyddocaol hefyd.
A byddai sinig hynod sinigaidd yn gweld posibiliadau yn amseriad ymadawiad Tywysoges ein Calonnau Oll a'r byd hwn hefyd.

Y ddamwain 31 Awst 1997
Yr angladd 6 Medi 1997
Pleidleisio'r Alban 11 Medi 1997
Pleidleisio Cymru 18 Medi 1997

Sinig hynod sinigaidd wrth gwrs.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Macsen » Mer 26 Ion 2011 5:18 pm

Na, does gan y straeon negyddol ddim byd i'w wneud gyda'r refferendwm - Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi rhyddhau'r ffigyrau sy'n sail i'r straeon uchod. A mae straeon o'r fath yn ymddangos bob wythnos, refferendwm ai peidio. (Bai'r eira mis diwethaf oedd y stori am ambiwlansys uchod).

Wrth gwrs mae ymateb y gwrthbleidiau i newyddion drwg wedi bod ychydig yn fwy ffyrnig na'r arfer oherwydd bod Etholiad y Cynulliad ar y gorwel.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Josgin » Mer 26 Ion 2011 5:58 pm

Mae safonau addysg yma yn bryder - ni ellir gwadu'r peth. Yr wyf o blaid annibyniaeth llwyr i Gymru o Loegr, ond nid wyf am guddio'r trawst yn fy llygad ychwaith.
Mae ' Nerys nonsens' Evans wrthi eto. Tra mae pobl fel hi yn cael dylanwad yn ein llywodraeth , ni fydd gwellhad. Dylai weithio am ychydig cyn rwdlian am faterion na wyr dim amdanynt.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Rhods » Gwe 28 Ion 2011 1:58 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer fawr iawn o straeon wedi ymddangos yn y wasg, sy'n tanseilio perfformiad y Llywodraeth(au) ers datganoli yn y meysydd sydd wedi datganoli yn enwedig Addysg a Iechyd, yn ogystal a'r Economi.

Dwi'n gwybod bod Llywodraeth y Cynulliad, a'r Cynulliad fel Corff yn ddau beth gwbwl wahanol, ond nid yw'r ffin mor amlwg i mwyafrif o bobl Cymru.

A yw hyn yn ymgais bwrpasol gan rhywrai i danseilio hygrededd y Llywodraeth/Cynulliad a rhoi ergyd i'r ymgyrch am fwy o bwerau? Dwi'n gweld e'n rhyfedd bod cymaint o straeon fel hyn wedi ymddangos yn ystod y dyddie/wythnosau diwethaf, ar yr un pryd ag y mae'r ymgyrchu yn dechrau...

Dyma rhai straeon yn y dyddiau diwethaf:
Ysgolion: Y bwlch wedi tyfu - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373662.stm
Safonau ysgolion: 'Lle i wella' - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 372084.stm
Amseroedd ymateb o dan y lach - http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 373197.stm

Ac yn yr wythnosau diwethaf mae són bod Cymru ar waelod y tabl o ran canlyniadau disgyblion, llai o ganran o ddisgyblion Cymru yn cael lle mewn Prifysgolion, Economi Cymru yn perfformio'n waeth na gweddill Prydain, Mwy o aros am driniaeth yng Nghymru na Lloegr ayb ayb...


Gallu gweld o le ti yn dod, ond sain meddwl. Y broblem yw y pobl sydd mewn pwer yn y cynulliad ond dim yr acshiwal cynulliad ei hun. Y refferendwm ar diwedd y dydd yw a dylai Cymru cael yr 'oce' gan San Steffan i basio cyfreithiau neu pido. Wrth gwrs dylse nhw ddim! No fears...Tua 60 % yn dweud 'ie' a 'tua' 40% yn erbyn fi yn meddwl fydd y canlyniad - safely. Meddwl ai'r bwcis nawr a trio ennill arian....... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Straeon diweddar yn y wasg n tanseilio Ymgyrch Ie, Bwria

Postiogan Cynfael » Gwe 28 Ion 2011 3:02 pm

Wel rwy'n siwr y bobl 'nage' bydd yn defnyddio'r storiau am eu ddadl ond dw i ddim yn siwr mae'r straeon yn fwriadol am y refferendwm, jyst y ddiwedd o'r blwyddyn gwleidyddol, cyn y etholiadau newydd. Ond dw i'n eisiau y llywodraeth i fod tryloyw. Mae'n rhaid i ni wybod bob wybodaeth ar y llywodraeth, gyda oll pethe ddrwg. Mae oll seneddau yn amherffaith (edrych ar San Steffan!) mae'n am rheolaeth nid y sgandal ar hyn o bryd.

Er hynny hefyd dw i'n siwr rhywbryd y straeon mawr yn defnyddio i eclips y straeon drwg, fel 'the thick of it', y byd yn llawn o straeon y bobl ddim yn wybod (O bosib, bydd y llywodraeth yn defnyddio y briodas brenhinol i gladdu'r newyddion drwg am esiampl)

Wrth gwrs, peidiwch yn drist gyda hwn, y ddadl 'ie' yw mwyaf cryf, bydd popeth yn iawn am y bobl 'ie' yn y refferendwm yn y diwedd wi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron