Atgyfodiad Prifysgol Cymru?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Atgyfodiad Prifysgol Cymru?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 11 Chw 2011 8:19 pm

Oes unrhyw un yn deall beth sy'n deall? Wedi clywed y newyddion ar radio Cymru heddiw, a darllen mwy ar wefan Golwg, ond dal ddim yn hollol sicr beth sy'n digwydd. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru ... o-r-newydd :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Atgyfodiad Prifysgol Cymru?

Postiogan obi wan » Sul 13 Chw 2011 11:21 am

Yn sicr ddigon ichi, nid Prifysgol Cymru fydd yr undeb newydd hwn, ac nid prifysgol o unrhyw fath, ond casgliad o gyn-golegau hyfforddi, technegol ac uwch-dechnegol. Mae'r sefydliadau oedd yn golegau go-iawn Prifysgol Cymru yn dal y tu allan, bellach dan yr enwau Prifysgolio0n Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Gadawn Gaerdydd o'r neilltu am y tro, ond dylai Abertawe, Aberystwyth a Bangor ailystyried eu sefyllfa'n ofalus iawn. Gyda phwysau mawr o du Llywodraeth y Cynulliad, gallant gael eu gorfodi i gyfuniadau a fydd yn farwol iddynt, ac i'r holl syniad o addysg brifysgol yng Nghymru. Y dewis gorau iddynt, yr unig wir ddewis, yw ail-uno fel Prifysgol Cymru go-iawn. Mae gwaith ailadeiladu aruthrol i'w wneud, yn dilyn y llanast a grewyd gan arweinwyr doeth byd addysg, y ffyliaid a'r fandaliaid mwyaf yn holl hanes addysgol a diwylliannol Cymru.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron