gan obi wan » Sul 13 Chw 2011 11:21 am
Yn sicr ddigon ichi, nid Prifysgol Cymru fydd yr undeb newydd hwn, ac nid prifysgol o unrhyw fath, ond casgliad o gyn-golegau hyfforddi, technegol ac uwch-dechnegol. Mae'r sefydliadau oedd yn golegau go-iawn Prifysgol Cymru yn dal y tu allan, bellach dan yr enwau Prifysgolio0n Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor. Gadawn Gaerdydd o'r neilltu am y tro, ond dylai Abertawe, Aberystwyth a Bangor ailystyried eu sefyllfa'n ofalus iawn. Gyda phwysau mawr o du Llywodraeth y Cynulliad, gallant gael eu gorfodi i gyfuniadau a fydd yn farwol iddynt, ac i'r holl syniad o addysg brifysgol yng Nghymru. Y dewis gorau iddynt, yr unig wir ddewis, yw ail-uno fel Prifysgol Cymru go-iawn. Mae gwaith ailadeiladu aruthrol i'w wneud, yn dilyn y llanast a grewyd gan arweinwyr doeth byd addysg, y ffyliaid a'r fandaliaid mwyaf yn holl hanes addysgol a diwylliannol Cymru.