Tudalen 1 o 1

Ydy nawdd gan y diwydiant diodydd yn llesol i Gymru?

PostioPostiwyd: Llun 21 Chw 2011 3:36 pm
gan Alcohol Concern
Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru'n galw am wahardd cwmnïau alcohol rhag noddi chwaraeon, gwyliau cerddorol a digwyddiadau diwylliannol eraill, yn bennaf am fod digwyddiadau o'r fath yn aml yn apelio'n fawr at bobl ifanc sy'n dal i ffurfio eu hagweddau at alcohol.

Ar hyn o bryd, mae nifer o'n timau cenedlaethol, a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn derbyn arian gan y diwydiant diodydd. Trwy i gwmnïau alcohol noddi digwyddiadau poblogaidd o'r fath, credwn ni fod neges yn cael ei chyfleu bod yfed alcohol yn normal, a hyd yn oed yn angenrheidiol er mwyn cael hwyl a'u mwynhau. Beth yw eich barn chi?

Darllenwch y datganiad i'r wasg a'r adroddiad llawn yma.