Elfyn Llwyd yn wael ar Question Time neithiwr. Yn gadael i horray henrys y sefydliad prydeining fynd o dan ei groen.
Does dim budd ceisio dadlau yn rhesymol ac yn egwyddorol hefo pobol sydd just yn cael laff, cymeriadau comic fel Janet Street Porter, neu golygydd y spectator, newyddiadurwr sydd a dim egwyddor heblaw egwyddor y stori dda. Mae fel tasa ambell i wleidydd cenedlaetholgar disgwyl i Lundeinwyr dafft fel hyn ddeud pethe neis am Gymru a wedyn yn ffromi ac yn sori pan mae nhw'n datgelu nad ydyn nhw'n poeni dim fferen am beth sy'n diwgydd yng Nghymru, a just yna i ddeud pethe entertaining.
Sylwer sut wnaeth Peter Hain berfformio, croen fel eliffant. Mae nifer o genedlaetholwyr yn poeni go iawn wrth gwrs a falla mae dyna'r broblem, dani'n hynod o hawdd i'n cythruddo, ond horses for courses, dylen ni ond cael cenedlaetholwyr poker faced ar rhaglenni 'adloniant ysgafn' fel Question Time.