Mae dadleuon cryf dros ddiwygio'r system bleidleisio. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o bleidleisiau fwy neu lai'n ddi-bwrpas. Mae pleidleisiau Llafur a'r Ceidwadwyr yn pentyrru yn eu cadarnleoedd eu hunain, ar naill law; a heb gyfrif dim yn seddi saff y blaid arall, ar y llaw arall, e.e. pleidleisiau Llafur yn Surrey, rhai i'r Ceidwadwyr ym Mlaenau Gwent. Mae pleidleisiau'r pleidiau llai (UKIP, y Gwyrddion) yn aml yn cael eu gwasgaru'n rhy eang i ethol neb.
Mater arall yw dewis trefn arall i gymryd lle'r un sydd gyda ni. Mae'r system Pleidlais Amgen (AV) yn casglu'r pleidleisiau o'r ymgeiswyr lleiaf poblogaidd yn y rownd gyntaf a'u hail-ddosbarth i'r rhai mwyaf poblogaiddar gyfer ail rownd. Gellid dadlau wedyn, mewn ras agos, y bydd dylanwad mawr gan gefnogwyr y pleidiau lleiaf gan y gallai eu pleidleisiau ail-ddewis nhw bennu'r enillydd. Er enghraifft, os cofiaf yn iawn, roedd cryn embaras yng nghriw Boris Johnson y gallai fe gael ei ethol yn Faer Llundain ar sail pleidleisau ail-ddewis ymgeisydd y BNP. (Nid felly y bu yn y diwedd, dwi'n credu).