Tudalen 1 o 1

Pleidlais Amgen

PostioPostiwyd: Sad 26 Chw 2011 4:32 pm
gan Cynfael
Ar hyn o bryd, mae’r DU yn defnyddio’r system “y cyntaf i’r felin” i ethol ASau i Doe’r Cyffredin. A ddylid defnyddio’r system “pleidlais amgen” yn lle hynny?


yno'r gwestiwn, Beth am eich teimladau ar y mater hwn?

Re: Pleidlais Amgen

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 10:36 am
gan Dili Minllyn
Mae dadleuon cryf dros ddiwygio'r system bleidleisio. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o bleidleisiau fwy neu lai'n ddi-bwrpas. Mae pleidleisiau Llafur a'r Ceidwadwyr yn pentyrru yn eu cadarnleoedd eu hunain, ar naill law; a heb gyfrif dim yn seddi saff y blaid arall, ar y llaw arall, e.e. pleidleisiau Llafur yn Surrey, rhai i'r Ceidwadwyr ym Mlaenau Gwent. Mae pleidleisiau'r pleidiau llai (UKIP, y Gwyrddion) yn aml yn cael eu gwasgaru'n rhy eang i ethol neb.

Mater arall yw dewis trefn arall i gymryd lle'r un sydd gyda ni. Mae'r system Pleidlais Amgen (AV) yn casglu'r pleidleisiau o'r ymgeiswyr lleiaf poblogaidd yn y rownd gyntaf a'u hail-ddosbarth i'r rhai mwyaf poblogaiddar gyfer ail rownd. Gellid dadlau wedyn, mewn ras agos, y bydd dylanwad mawr gan gefnogwyr y pleidiau lleiaf gan y gallai eu pleidleisiau ail-ddewis nhw bennu'r enillydd. Er enghraifft, os cofiaf yn iawn, roedd cryn embaras yng nghriw Boris Johnson y gallai fe gael ei ethol yn Faer Llundain ar sail pleidleisau ail-ddewis ymgeisydd y BNP. (Nid felly y bu yn y diwedd, dwi'n credu).

Re: Pleidlais Amgen

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 6:07 pm
gan Cynfael
Y peth cynta' i dweud - rhaid y mater hyn i fod mewn materion Prydain! ddrwg 'da fi!

Wi ddim yn wybod, dwi wedi hoffi iawn y syniad, Rwy'n eisiau i newid y ffordd i bleidlesio oherwydd o'r broblemau mawr gyda FPTP, ond mae'n annheg i anfon hen pleidleisiau o'r colledwyr i'r bobl arall, wi'n meddwl.

''PR'' yw iawn, ond y problem mawr yw y bleidiau arall (y hiliwr gwallgofiaid) fyddan nhw i fod mewn swyddfa gyda dim ond tipyn bach o'r bleidleisiau. Yna yw annheg. Hefyd rwy'n meddwl i gael gyda etholaethau yw bwysig iawn.

Dwi'n meddwl bydd dechneg croesryw yn gweithio'n dda, gyda pethe fel y symlrwydd o FPTP gyda'r pethe arall hefyd - i cadw bopeth mewn tegwch

Bydda i bleidlesio 'nage' ond dwi'n casau'r bobl 'nage' - edrych ar y llun hwn -

(http://bit.ly/iaimcj)

Y gwlad hwn yw heb arian ar hyn o bryd, ond i bleidleisio 'ie' yw i fod lladdwr? wi ddim yn meddwl na - gwiriondeb

Re: Pleidlais Amgen

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 7:48 pm
gan Dili Minllyn
Cynfael a ddywedodd:''PR'' yw iawn, ond y problem mawr yw y bleidiau arall (y hiliwr gwallgofiaid) fyddan nhw i fod mewn swyddfa gyda dim ond tipyn bach o'r bleidleisiau.

Os democratiaeth yw'r nod, rhaid derbyn dewis democrataidd rhai pobl i ethol gwleidyddion annifyr iawn.

Re: Pleidlais Amgen

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 7:16 pm
gan Cynfael
Dili Minllyn a ddywedodd:
Cynfael a ddywedodd:''PR'' yw iawn, ond y problem mawr yw y bleidiau arall (y hiliwr gwallgofiaid) fyddan nhw i fod mewn swyddfa gyda dim ond tipyn bach o'r bleidleisiau.

Os democratiaeth yw'r nod, rhaid derbyn dewis democrataidd rhai pobl i ethol gwleidyddion annifyr iawn.


Wel yma'r baradocs. Pobl yn defnyddio'r ffordd democratig, ond i stopio'r tegwch o ddemocratiaeth! ...fel 1933 wrth gwrs