Tudalen 1 o 2

Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 10:15 am
gan Alcohol Concern
"Pentyrrwch nhw'n uchel, gwerthwch nhw'n rhad", dyna oedd hen arwyddair Jack Cohen yn nyddiau cynnar Tesco. Mae ymchwil gan Alcohol Concern yn awgrymu bod archfarnadoedd yn dal i lynu wrth yr hen egwyddor trwy osod arddangosfeydd o alcohol ar ddisgownt trwy'u siopau, gan gynnwys wrth y drws, ar eiliau bwyd, eiliau tymhorol, stondinau arddangos ar wahân, ac wrth y tiliau. Roedd yr enghreifftiau welson ni'n cynnwys gwin ar werth wrth sudd ffrwythau a diodydd ysgafn eraill, poteli o wirodydd wrth ymyl bara a the, caniau o seidr wrth ymyl y cownter cyw iâr poeth, a photeli o siampên wrth y llaeth. Arfer cyffredin erbyn hyn yw gosod gwin wrth brydau bwyd parod, er enghraifft, gan wthio'r syniad y dylen ni yfed alcohol er mwyn ymlacio gyda’n swper.

Mae Alcohol Concern yn galw ar archfarchnadoedd a siopau trwyddedig i gyfyngu eu harddangosfeydd alcohol i un rhan o'u safle. Mae mesur o'r fath eisoes yn ei le yn yr Alban, ac mewn arolwg mae 70% o 1,000 o gwsmeriaid archfarchnadoedd yng Nghymru wedi cefnogi'r syniad.

Darllenwch y stori lawn ar wefan y BBC neu ar ein gwefan ni.

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Medi 2011 5:59 am
gan Blewyn
Mi eith alcohol r'un ffordd a nicotine yn y pen draw......gobeithio

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2011 4:30 pm
gan Mali
Dwi ddim yn byw yng Nghymru , felly doeddwn ddim yn gwybod bod yr arferiad o osod diodydd efo bwydydd yn bodoli ! Tydi alcohol ddim yn cael ei werthu mewn archfarchnadoedd yma o gwbwl , dim ond mewn liquor stores. Ai ddim felly dylai fod ? Oes rhaid i archfarchnadoedd werthu alcohol o gwbwl?

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2011 3:35 pm
gan Alcohol Concern
Mae'r archfarchnadoedd yn cael cyfran eithaf da o'u helw o werthu alcohol, ac mae bron i hanner yr alcohol sy'n cael ei werthu ym Mhrydain bellach yn cael ei brynu ynddyn nhw. Mae'r siopau mawr yn hoff o honni nad oes dim byd yn bod ar hyn gan fod pobl yn ei brynu fel "rhan o'u siopa wythnosol" (fe pe bai hynny'n gwneud rhyw wahaniaeth) a bod cwsmeriaid sy'n prynu symiau mawr o alcohol ar ddisgownt yn ei yfed gartref fesul tipyn dros amser hir (fel pe tai'r siopau'n gwybod beth mae pobl yn ei wneud gartref).

Mae Llywodraeth yr Alban am greu mannau ar wahan mewn siopau ar gyfer prynu alcohol.

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Sad 01 Hyd 2011 1:17 pm
gan anffodus
blydi hel, sgynnoch chi'm byd gwell i'w neud na chwyno am betha fel hyn?!

dw i'n gwbod yn iawn bod 'na bobl yn yfad yn anghyfrifol ond dwi ddim yn rhy keen ar y crwsad dirwestol 'ma sgynnoch chi yn erbyn alcohol yn gyffredinol.

mae o'n anghywir ac mae o'n fy ngneud i'n bryderus bod bron i hanner yr alcohol sy'n cael ei werthu ym mhrydain yn cael ei brynu mewn archfarchnadoedd. a be sy'n anghywir ac yn bryderus am hynny ydi bod yn well gan bobl yfed adra yn lle buddsoddi eu pres cwrw yn y dafarn leol! ma'n torri nghalon i pan dwi'n gweld tafarn yn cau. llefydd cymdeithasol, cyfeillgar, diwylliedig fel hyn ydi conglfaen cymuneda yn aml iawn. a be sydd angan ei neud ar fyrder ydi gostwng pris diodydd mewn tafarndai.

MAE O'N GNEUD GWAHANIATH pan ma pobl yn prynu chydig o gania neu boteli gwin efo'u siopa wythnosol yn hytrach na piciad i bargain booze i brynu llwyth ohono fo ar gyfar bendar eithafol! A MAEN NHW'N YFED FESUL TIPYN DROS AMSER HIR! a mae archfarchnadoedd yn gwbod be ma pobl yn ei neud adra - pobl sy'n eu rhedag nhw!

wel ma archfarchnadoedd yn gwybod be dw i'n ei neud adra eniwe - nos lun mi brynis i bedwar can o strongbow ym morrisons bangor ucha. mi yfais i un ohonyn nhw wrth sgwrsio efo ffrindia ar ol noson allan nos lun. mi yfais i un ac mi yfodd fy ffrind ohonyn nhw nos fercher wrth neud yr un peth ac mi yfais i un ohonyn nhw neithiwr. mewn difri calon, be'n union sy'n bod ar hynny?

ma na bobl sydd yn yfed gormod a mae angan delio efo hynny mewn rhyw ffordd. rheoliada, deddfa, trio newid arferion rheini sy'n mynd allan i feddwi a chanu caneuon aflafar (fel y bu rhaid i mi ei ddiodda yn y glob neithiwr) - dwn i'm be ydi'r atab ond ma hi'n gwbwl annheg ac anfoesol gneud alcohol yn anos a drutach i'w brynu i'r rhai sy'n ei yfad o'n gall a chymhedrol!

tyfwch i fyny a stopiwch fod mor unllygeidiog.

reit, dyna ddigon o rantio. dwi'n mynd am beint.

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Sad 01 Hyd 2011 3:24 pm
gan sian
Dw i newydd ddod adre o Bwllheli lle bues i yn y Co-op.
Dw i reit ffond o Co-op Pwllheli, mae reit Gymreigaidd a hamddenol a dewis eitha da o bethau lleol a masnach deg.
Ond beth sy'n fy nharo i bob tro dwi'n mynd yno yw bod 'na alcohol blith draphlith trwy'r siop ac mae hyn yn fy ngwneud i'n anghyfforddus.
Os ydi rhywun eisie prynu diod dydi hi ddim yn anodd ffeindio'r aisle. Does dim angen temtio pobl trwy osod alcohol hwnt ac yma.
Dw i'n falch bod rhywun arall wedi tynnu sylw at hyn.

Ond beth sy'n digwydd yn y Cymro? - stori flaen dair wythnos ar ôl ei gilydd (neu bron iawn ar ôl ei gilydd) yn pregethu am beryglon alcohol.
Ai dyna'r lle?

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Maw 04 Hyd 2011 9:50 am
gan Alcohol Concern
anffodus a ddywedodd:dw i'n gwbod yn iawn bod 'na bobl yn yfad yn anghyfrifol ond dwi ddim yn rhy keen ar y crwsad dirwestol 'ma sgynnoch chi yn erbyn alcohol yn gyffredinol.

O blaid yfed yn gall rydyn ni, nid yn erbyn yfed yn llwyr. Fel y gwelwch chi o'r neges gyntaf uchod, tactegau'r archfarchnadoedd i hybu gwerthiant alcohol (eu hesgusodion tila dros y fath dactegau) yw ein targed, nid yfwyr cyffredin.

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 9:39 am
gan dil
pam ddim cael enw Gymraeg ich mudiad cyn pregethu am be sy'n dda a drwg am laeth mwnci.
ma' archfarchnadoedd yn uffern ar y ddear gwir.a dydi alcahol ond yn gorcyn ar y botel.
rwyn am beint?

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 10:21 am
gan Alcohol Concern
dil a ddywedodd:pam ddim cael enw Gymraeg ich mudiad cyn pregethu am be sy'n dda a drwg am laeth mwnci.

Awgrymiadau ar gerdyn post, os gwelwch yn dda. :winc:

Re: Alcohol: "ei bentyrru'n uchel a'i werthu'n rhad"?

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2011 2:44 am
gan Hen Rech Flin
Alcohol Concern a ddywedodd:Awgrymiadau ar gerdyn post, os gwelwch yn dda


Pryderu am botio!

Neu be am gadw at yr hen enw Yr Achos Ddirwest?