Tudalen 1 o 2

IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 2:19 pm
gan ceribethlem
Ie yw hi te.

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 2:26 pm
gan ceribethlem
Sir Fynwy yr unig Sir i bleidleision yn erbyn. Na wrth mwyafrif bach iawn iddyn nhw.

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 2:29 pm
gan osian
Canlyniad Mynwy, fel pob sir arall, yn hynod galonogol


Dal...spoilsborts...

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 2:46 pm
gan Hogyn o Rachub
Canlyniad hollol wych. Sioc y dydd: Sir y Fflint, heb unrhyw amheuaeth!

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 3:53 pm
gan GutoRhys
Mae na wastad un yn does! Rebel Cymru.

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 4:31 pm
gan Cynfael
Da iawn bawb! Rwy'n hapus iawn gyda hyn!

osian a ddywedodd:Canlyniad Mynwy, fel pob sir arall, yn hynod galonogol


Dal...spoilsborts...


Nid 'Cymru Gwir' - 'Sboilsborts wir' :P

Er hynny, mewn Sir Fynwy dim ond 320 mwy wedi bleidlesio 'na'. Dim ond 320, mae'n bach. Ym mhobman yng Nghmru bobl yn eisiau'r newid

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 4:42 pm
gan Hazel
Atseiniau o 1997! Da iawn! Llongyfarchiadau i bawb. :D

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 5:33 pm
gan ID
Calonogol iawn. Wedi dweud hyn, gyda phob plaid yn cefnogi'r ymgyrch 'ie', byddau unrhyw ganlyniad arall wedi bod yn drychineb.

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 7:56 pm
gan Mali
Da iawn chi ! :D
Wedi bod yn dilyn y trydar, a Radio Cymru wrth gwrs ers tua pump o'r gloch y bore . 'Roedd y canlyniadau mor ecseiting fel y methais i fynd nôl i gysgu . :D

Re: IE

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2011 8:17 pm
gan Hedd Gwynfor
Gwych! Da iawn i bawb fu'n rhan o'r ymgyrchu!