Tudalen 1 o 1

Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2011 7:20 am
gan ceribethlem
Yn dilyn canlyniad echrydus y Plaid Cymru yn Llanelli, dyma Keith Davies AC newydd y Blaid Lafur yn disgrifio'i hunan fel "Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro". Mae hwn yn swno fel rhywbeth od iawn i rywun o'r Blaid Lafur i ddweud. Mae'r Blaid Lafur wedi defnyddio'r term "cenedlaetholwr" fel term dirmygus a ffordd o phardduo'r Blaid. I'r Blaid Lafur mae'r term cenedlaetholwr yn un budur.

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2011 12:10 pm
gan Gowpi
a'i gyfieithiad Saesneg am genedlaetholwr? Proud Welshman...

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2011 8:57 pm
gan Siani Flewog
Mae o'n gyn gyfarwyddwr addysg (sydd ddim o reidrwydd yn golygu ei fod yn ddeallus a gan gofio mai Sir Gar oedd ei gyflogwr) ac felly mi ddylai fod yn deall y gwahaniaeth?

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Iau 12 Mai 2011 9:58 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ay, tipyn yn od, hynny. Ddim yn hoff o weld "sosialydd" a "chenedlaetholwr" gyda'i gilydd.

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Iau 12 Mai 2011 10:41 pm
gan osian
Yda chi'n meddwl fodo'n conffiwsd ac wedi sefyll dros y blaid rong?

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Gwe 13 Mai 2011 11:20 am
gan Nei
Cyn gyfarwyddwr addysg morgannwg ganol oedd Keith, nage sir Gar

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 2:38 pm
gan Darth Sgonsan
Nei a ddywedodd:Cyn gyfarwyddwr addysg morgannwg ganol oedd Keith, nage sir Gar


yn ol gwefan Llafur roedd Keith yn arfer bod yn gyfarwyddwr addysg Sir Gar hefyd

http://keithdavies.org.uk/about/

Re: Sosialydd, Cenedlaetholwr a Chymro

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2011 5:14 pm
gan Nei
ww, falle ei fod e hefyd, sori!