Tudalen 1 o 1

Problem gudd goryfed mewn henoed

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2011 8:57 am
gan Alcohol Concern
Mae papur briffio newydd gan Alcohol Concern Cymru yn dweud bod pwyslais gormodol ar yfed gan bobl ifanc yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd yn peri i ni anwybyddu goryfed gartref gan bobl hŷn.

Er ein bod yn tueddu i yfed llai wrth heneiddio, mae'r papur Niwed cudd? Alcohol a phobl hŷn yng Nghymru yn nodi fel y gall y patrwm hwn guddio problemau alcohol difrifol ymysg rhai pobl hŷn. At hynny, mae llawer o oedolion iau heddiw'n mabwysiadau patrymau yfed trwm a allai barhau wrth iddynt heneiddio.

Dyma rai o brif gasgliadau'r papur briffio:
•Gall nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig â heneiddio, fel newid ffordd o fyw wedi ymddeol neu golli cymar, ysgogi yfed trymach
•Nid yw gweithwyr gofal iechyd bob tro'n adnabod pryd mae problemau iechyd rhai pobl hŷn yn ymwneud ag alcohol, neu gallant fod yn ansicr sut i godi'r mater, gan adael problemau alcohol heb eu trin
•Yn aml, ni wêl ein cymdeithas fod goryfed yn broblem y tu hwnt i ryw oedran, felly ni chynigir cefnogaeth
•Er gwaethaf hyn, mae ymchwil wedi dangos bod pobl hŷn yn debygol o ymateb i help â phroblemau alcohol llawn cystal â phobl iau, neu hyd yn oed yn well na nhw.