Tudalen 1 o 1

Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 6:27 pm
gan Duw
Yn dilyn siomedigaeth arw 'r etholiad a phenderfyniad IWJ i fod 'ar wyliau' yn hytrach na gwneud 'stand' neu mynychu'r seremoni agoriadol, a oes lle i'r dyn hwn bellach?
A ddylai fynd nawr, tra bod amser i arweinydd newydd sefydlu ei hun yn hytrach na gorfod adfer sefyllfa ofnadwy jest cyn etholiad.

Dwi erioed wedi bod yn ffan. Gelen i ei wared e nawr.

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 7:48 pm
gan Josgin
Ymddiswyddo'n syth. Mae'n fwy o faen felin i'w achos nac unrhyw arweinydd gwleidyddol arall drwy Brydain, a dweud y gwir. Os y gwnaiff aros am ddwy flynedd, mae gwir berygl i Blaid Cymru hollti , neu colli degau o aelodau ar y gorau. Wedi dweud hynny, petai DET yn dod yn arweinydd, dim ond un aelod fuasai ar ol.

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2011 9:47 pm
gan Duw
O Crist nid efe. AP fydde'r boi i mi, er ydyw e dal ar ei grwydr deugain dydd a nos?

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 8:18 am
gan Josgin
Mae'n rhaid ei fod o'n dal yn yr UDA. Oes yna rhyw ffrae wedi bod rhynggo a rhywun ? . Mae'n gyfnod hir iawn i rhywun fod ar 'sabothol' . Beth yn union ydi'r cefndir i'w fethiant i ddychwelyd, nac i ddangos unrhyw ddiddordeb yng Nghymru tu hwnt i ddiddordeb 'academaidd' ?

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 8:45 am
gan Nanog
Gobeithio nad yw hyn (gweler isod) yn wir. Os yw e....mae'n bryd iddo fynd. Mae llawer o bobl wedi gwneud y pwynt yma ynglyn a'r ail dy. Mae wedi bod yn y papurau, ar y teledu, ac ar y radio. Mae'n ymweld yn rhagrithiol i aelod o Blaid Cymru ac yn enwedig y pennaeth.



"He is currently staying at his second home in the south of France."

Read More http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... z1OxF202m4

"....................Mr Jones was believed to be at his second home in the south of France."

http://www.dailypost.co.uk/news/local-n ... 55578-2883

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2011 12:10 pm
gan Duw
Mae'n dwyn cywilydd ar y blaid a'i chefnogwyr. Dwi wedi cael llawn gyts o'r idiot.

Re: Arweinydd Newydd i Blaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 23 Medi 2011 5:56 am
gan Blewyn
Teithio rownd y lle mewn VW Camper oedd o mae'n debyg