http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2011/06/11/wales-sitting-on-gas-reserves-worth-up-to-70bn-say-experts-91466-28859676/
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi galw am adeiladu camlas er mwyn cario dŵr o Gymru a’r Alban i dde ddwyrain Lloegr. Dywedodd fod y cynllun yn angenrheidiol yn sgil y sychder sydd wedi taro de ddwyrain Lloegr eleni.
“Mae’n bwrw glaw llawer rhagor yng Nghymru a’r Alban nag y mae hi yn Llundain,” meddai yn ei golofn yn y Daly Telegraph.
“Mae yna fwlch dŵr rhwng y gogledd a’r de – sy’n golygu bod yr Alban a Chymru yn wlyb domen, tra bod Newmarket fel y Sahara.
“O ystyried fod yr Alban a Chymru yn uwch ar y cyfan na Lloegr, mae’n bryd gwneud beth sy’n amlwg, a defnyddio disgyrchiant i ddod a’r glaw o’r mynyddoedd er mwyn dyfrhau’r de a’r dwyrain.”
Camlas
Dywedodd mai un cynllun oedd adeiladu camlas fyddai yn cysylltu’r Afon Gwy a’r Afon Hafren sy’n llifo o gronfeydd dŵr yng Nghymru i’r Tafwys.
Cynllun arall posib fyddai adeiladu camlas yr holl ffordd o ffin yr Alban i dde ddwyrain Lloegr, meddai.
“Mae camlesi yn bethau prydferth iawn, a pe baen ni’n ymestyn y rhwydwaith presennol dydw i ddim yn credu y byddwn ni’n gweld y cwynion ddaw yn sgil adeiladu ffordd newydd neu reilffordd gyflym,” meddai.
“Mae gennym ni ddigon o ddŵr ym Mhrydain, ac mae’n siŵr fod gan genedl Brunel y gallu i ddod o hyd i ffyrdd prydferth a dyfeisgar o sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd y llefydd cywir ar yr adegau cywir.”
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai