Tudalen 1 o 1

£70 biliwn i Gymru? Adnoddau nwy

PostioPostiwyd: Sul 12 Meh 2011 10:36 pm
gan tommybach

Re: £70 biliwn i Gymru? Adnoddau nwy

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2011 6:10 am
gan Josgin
Da iawn os yw'n wir - anwybyddwch y gwyrddion . Mae economi Cymru ddirfwar angen diwydiant cynhyrchu.

Re: £70 biliwn i Gymru? Adnoddau nwy

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2011 10:42 am
gan Blewyn
Wel os ydy hyn yn wir, mae angen gwneud yn siwr bo annibyniaeth yn y bag CYN datblygu'r meysydd nwy, er mwyn i'r elw fynd i goffrau llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, ag nid i bocedi Llundain.

Re: £70 biliwn i Gymru? Adnoddau nwy

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2011 3:19 pm
gan tommybach
Mae Maer Llundain, Boris Johnson, wedi galw am adeiladu camlas er mwyn cario dŵr o Gymru a’r Alban i dde ddwyrain Lloegr. Dywedodd fod y cynllun yn angenrheidiol yn sgil y sychder sydd wedi taro de ddwyrain Lloegr eleni.

“Mae’n bwrw glaw llawer rhagor yng Nghymru a’r Alban nag y mae hi yn Llundain,” meddai yn ei golofn yn y Daly Telegraph.

“Mae yna fwlch dŵr rhwng y gogledd a’r de – sy’n golygu bod yr Alban a Chymru yn wlyb domen, tra bod Newmarket fel y Sahara.

“O ystyried fod yr Alban a Chymru yn uwch ar y cyfan na Lloegr, mae’n bryd gwneud beth sy’n amlwg, a defnyddio disgyrchiant i ddod a’r glaw o’r mynyddoedd er mwyn dyfrhau’r de a’r dwyrain.”

Camlas

Dywedodd mai un cynllun oedd adeiladu camlas fyddai yn cysylltu’r Afon Gwy a’r Afon Hafren sy’n llifo o gronfeydd dŵr yng Nghymru i’r Tafwys.

Cynllun arall posib fyddai adeiladu camlas yr holl ffordd o ffin yr Alban i dde ddwyrain Lloegr, meddai.

“Mae camlesi yn bethau prydferth iawn, a pe baen ni’n ymestyn y rhwydwaith presennol dydw i ddim yn credu y byddwn ni’n gweld y cwynion ddaw yn sgil adeiladu ffordd newydd neu reilffordd gyflym,” meddai.

“Mae gennym ni ddigon o ddŵr ym Mhrydain, ac mae’n siŵr fod gan genedl Brunel y gallu i ddod o hyd i ffyrdd prydferth a dyfeisgar o sicrhau bod y dŵr yn cyrraedd y llefydd cywir ar yr adegau cywir.”

Re: £70 biliwn i Gymru? Adnoddau nwy

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2011 9:30 pm
gan Seonaidh/Sioni
...a chyda nwy Cymru (os oes), beth am gamlesi "jacuzzi"?