gan glyn roberts » Mer 05 Hyd 2011 8:42 pm
Fe fyddaf i yn gwneud tipyn o hel achau , ymchwilio i hanes fy nheulu fy hunnan ac i bobl eraill hefyd.Roedd yn arferiad cyffredin i roi enw cyntaf y tad fel ail enw i'r mab.Er engraifft enw fy h-h-h-h-h-h daid oedd Charles Mark , ei fab yn Lewis Charles a'i ferch ynntau yn Catherine Lewis.Yn aml iawn nid oedd y wraig yn defnyddio ail enw y gwr.Catherine Lewis oedd enw gwraig Charles Mark ond nid wyf wedi darganfod unrhyw gyfeiriad ati fel Mrs Charles.Ar eu carreg fedd maent wedi eu cyfnodi fel Charles Mark a Catherine Lewis ei wraig.
Mae yn weddol hawdd darganfod unigolion pan maent wedi eu henwi yn y drefn yma , ond weithiau mae yna engreifftiau o unigolion neu hydynoed deulu cyfan yn newid eu cyfenw heb reswm amlwg ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn olrain hanes y teulu.
Ni fyddaf yn hoffi defnyddio y gair cyfenw gan nad yw yr hen drefn Gymreig o enwi yn cymharu a'r dref Saesnig o gyfenwau.Yn yr engraifft uchod Lewis fab Charles a Catherine ferch Lewis yw ystyr yr ennwau nid oes cyfenw teuluol fel sydd yn y drefn Saesnig.