Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan Nanog » Mer 05 Hyd 2011 10:18 am

Dwi wedi bod yn gwneud rhwyfaint o hel achau. Mae'n ddiddorol iawn. Ond, mi ddes i ar draws un o fy nghyn-deidiau oedd a'r enw Davies fel cyfenw ond roedd gan ei dad gyfenw arall sef Nicholas. Rwy'n weddol sicr mae hwn oedd y tad. Mi ddywedodd rhywun wrthyf fod hyn yn digwydd yn weddol aml yn y gorffennol. Oes unrhyw un yn gwybod am hyn a pam dylai'r bobl wneud hyn? Rwy'n siarad am ddiwedd y ddeunawfed ganfrif.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan Josgin » Mer 05 Hyd 2011 1:42 pm

Roedd yn arferiad tan tua 1840 i Gymry gymeryd enwau cyntaf eu tadau fel cyfenw - Buasai mab Huw Jones yn rhywbeth Hughes, mab Henry Jones yn rhywbeth Parry , mab Richard Jones yn rhywbeth Prichard. Fe wnaeth yr arfer farw allan tua'r adeg roedd cofrestru genedigaethau wedi dod yn orfodol, ac i'r censws gael ei gymeryd. Fy h-h-daid (ganwyd tua 1825 yn Llanberis) oedd yr un olaf i gymeryd enw cyntaf ei dad.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan Nanog » Mer 05 Hyd 2011 7:45 pm

Josgin a ddywedodd:Roedd yn arferiad tan tua 1840 i Gymry gymeryd enwau cyntaf eu tadau fel cyfenw - Buasai mab Huw Jones yn rhywbeth Hughes, mab Henry Jones yn rhywbeth Parry , mab Richard Jones yn rhywbeth Prichard. Fe wnaeth yr arfer farw allan tua'r adeg roedd cofrestru genedigaethau wedi dod yn orfodol, ac i'r censws gael ei gymeryd. Fy h-h-daid (ganwyd tua 1825 yn Llanberis) oedd yr un olaf i gymeryd enw cyntaf ei dad.


Diolch yn fawr i ti Josgin. A David oedd enw'r tad hefyd felly mae hyn yn gwneud synwyr. Felly, tebyg iawn taw Nicholas fyddai enw cyntaf tad David Nicholas. Dwi heb chwlio am pwy oedd tad David Nicholas er dwi'n gwybod pwy oedd y wraig a Nicholas oedd ei chyfenw. Bu hi farw tua 1760. Beth oedd yr arferiad gyda'r gwragedd? Oedd y rheini'n cymeryd enwau cyntaf eu gwrywon? Mae'n fy ngwneud i chwerthin ac hefyd yn drist fod llawer o'r bobl y cyfnod yma gydag enwau Saesneg ond rwy'n gwybod ar lafar roeddynt yn Cymreigio'r enwau ee David yn Dafi a James yn Jemi ayyb.

Wyt ti wedi bod yn chwilio hanes dy deulu dy hun? Mae'n ddiddorol iawn. Dwi ddim wedi bod wrthi ers hir ond mae'n sgil ac rwy'n dysgu.

ON
Dwi'n teimlo eitha ecseited nawr achos roeddwn wedi bwrw wal a nawr mae wedi ei ddymchwel. :D
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan glyn roberts » Mer 05 Hyd 2011 8:42 pm

Fe fyddaf i yn gwneud tipyn o hel achau , ymchwilio i hanes fy nheulu fy hunnan ac i bobl eraill hefyd.Roedd yn arferiad cyffredin i roi enw cyntaf y tad fel ail enw i'r mab.Er engraifft enw fy h-h-h-h-h-h daid oedd Charles Mark , ei fab yn Lewis Charles a'i ferch ynntau yn Catherine Lewis.Yn aml iawn nid oedd y wraig yn defnyddio ail enw y gwr.Catherine Lewis oedd enw gwraig Charles Mark ond nid wyf wedi darganfod unrhyw gyfeiriad ati fel Mrs Charles.Ar eu carreg fedd maent wedi eu cyfnodi fel Charles Mark a Catherine Lewis ei wraig.
Mae yn weddol hawdd darganfod unigolion pan maent wedi eu henwi yn y drefn yma , ond weithiau mae yna engreifftiau o unigolion neu hydynoed deulu cyfan yn newid eu cyfenw heb reswm amlwg ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn olrain hanes y teulu.
Ni fyddaf yn hoffi defnyddio y gair cyfenw gan nad yw yr hen drefn Gymreig o enwi yn cymharu a'r dref Saesnig o gyfenwau.Yn yr engraifft uchod Lewis fab Charles a Catherine ferch Lewis yw ystyr yr ennwau nid oes cyfenw teuluol fel sydd yn y drefn Saesnig.
glyn roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 05 Chw 2009 10:38 am

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 06 Hyd 2011 1:49 am

Josgin a ddywedodd:Fe wnaeth yr arfer farw allan tua'r adeg roedd cofrestru genedigaethau wedi dod yn orfodol, ac i'r censws gael ei gymeryd. Fy h-h-daid (ganwyd tua 1825 yn Llanberis) oedd yr un olaf i gymeryd enw cyntaf ei dad.


Does dim cyfenw ar fy nhystysgrif geni i. Y mae'n nodi fy mod yn "boy" o'r enw David Alwyn ac yn fab i Hugh Humphreys, tybiedig yn unig yw mai Humphreys yw fy nghyfenw i hefyd. Dyma fu'r drefn hyd y 1970au. Nid cofrestru genedigaethau sy'n gyfrifol am newid y drefn enwi.

Mae yna filoedd o enghreifftiau o gofnodion cyfrifiad sy'n dangos cofnodion megis
Griffith ROBERTS, Head
John GRIFFITHS Son

Nid y cyfrifiad sy'n gyfrifol am y newid drefn enwi!

Y cyntaf yn fy ach wrywaidd i ddefnyddio cyfenw "sefydlog" swyddogol o dan y drefn Seisnig oedd fy hen daid - yfo hefyd oedd y cyntaf yn yr ach i dderbyn addysg statudol wladwriaethol. Deddfau addysg a oedd yn mynu bod plant yn ddysgu be oedd eu cyfenwau Prydeinig oedd yn gyfrifol am newid y drefn enwi!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan geraintj » Gwe 07 Hyd 2011 8:20 am

glyn roberts a ddywedodd:Er engraifft enw fy h-h-h-h-h-h daid oedd Charles Mark ...


Charles Mark o Llangwnadl neu Bryncroes? Wyt ti'n gwybod unrhyw beth am un o'i gyfoedion o o'r un ardal o'r enw John Griffith â all fod yn ddiweddarach wedi symud i blwyf Pistyll?
geraintj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 09 Hyd 2008 10:18 pm

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan glyn roberts » Gwe 07 Hyd 2011 10:25 pm

glyn roberts a ddywedodd:
Er engraifft enw fy h-h-h-h-h-h daid oedd Charles Mark ...

Ie Charles Mark o Dy Mawr , Bryncroes . Yr oedd yn un o sefydlwyr y ffudd Methodistaidd yn Llyn.Yn llyfr dathlu dauganmlwyddiant Capel Ty Mawr mae tipyn o son am John Griffydd Ellis a fu yn arolygwr seiadau Llyn am gyfnod , cyn i Charles Marc ymgymeryd a'r gwaith.Os mai hwn yw yr un John Griffith mae son amdano ef a Charles Mark yn gwrando ar Jenkin Morgan yn pregethu yn Towyn , Tudweiliog yn 1747 .ac yr oedd y ddau yn gwrando ar William Williams , Pantycelyn yn pregethu yn 1748. Os yw hyn o ddiddordeb fe allaf wneud copi o'r tudalenau dan sylw a'i gyrru i chwi.
glyn roberts
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 05 Chw 2009 10:38 am

Re: Newid cyfenwau yn yr oes o'r blaen.

Postiogan geraintj » Maw 11 Hyd 2011 7:55 am

Glyn,

Fe anwyd fy John Griffith i tua 1730 felly os oedd yr un wyt ti'n sôn amdano o gwmpas cyn Charles Marc nid yw'n debygol mai o ydyw. Beth bynnag, diolch am y wybodaeth!
geraintj
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Iau 09 Hyd 2008 10:18 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron