Tudalen 1 o 2

Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 21 Tach 2011 1:05 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Yn ol y son, mae nhw am leihau nifer y cynghorwyr ym Mon o 40 i 30, ac yr oedd yn sibrwd o ail-uno Cyngor Mon efo'r tir mawr.

Gwnaeth hyn i fi feddwl am faint o gynghorau dylid fod yng Nghyrmu. Ar hyn o bryd mae 22 o gynghorau "sir", yn gweithredu ar gyfer poblogaetth o ryw 2.8m - un cyngor i bob i 127,000 o bobl ar gyfartaledd (dim on 69,000 sy'n byw yn sir Fon, dwi'n meddwl).

Mae pob cyngor yn gyfrifol am addysg, lonydd, cynllunio, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a sbwriel yn eu sir penodol. (Ar ben hyn mae tri chyngor yn rhedeg y parciau cenedlaethol sy'n delio efo' materion cyffelby.)

Yn fy swydd cyn yr un presennol, ro'n i'n gweithio i gyngor yn Lloegr. Fel rhai Cymru, mae'r cyngor hwnnw'n gyfrifol am bopeth yn yr ardal (does yn a ddim cyngor sir yn uwch i fyny). Roedd yna 90 o gynghorwyr a phoblogaeth yn ol cyfrifiad 2001 oedd jyst o dan 300,000.

Fel tipyn o anorac llywodraeth leol, ac fel rhywun sy'n meddwl fod Cymru angen cyfundrefnau cryf i lwyddo, dydio ddim yn gneud synnwyr i mi cael y trefniant presennol.

Be da chi'n feddwl?

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 21 Tach 2011 1:54 pm
gan Macsen
Beth am i'r Cynulliad ymddwyn fel ryw fath o 'regional council', a wedyn cael saith 'cangen': Gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-orllewin, powys, Abertawe a'r cymoedd cysylltiedig, Caerdydd a'r cymoedd cysylltiedig, Casnewydd a cymoedd Gwent ayyb. :)

(Wn i y bydda Powys tipyn llai na'r lleill ond mae'n anodd ei daflu i mewn gyda un o'r cynghorau eraill. Dw i ddim yn hoffi'r ffaith fod Powys a'r de-orllewin yn rhannu'r un rhanbarth etholiadol a'r un heddlu. Mae'n nhw'n ardaloedd gwahanol iawn gyda wal o fynyddoedd rhyngddyn nhw. Os rhywbeth dylai Arfon ac Ynys Mon fod mewn rhanbarth etholiadol 'gorllewinol' sy'n cynnwys y de-orllewin, a Powys mewn rhanbarth 'dwyrain Cymru' gyda gweddill y rhanbarth Gogledd Cymru presennol.) :ing:

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Llun 21 Tach 2011 9:15 pm
gan Josgin
(1) De Cymru

(2) Gogledd Cymru (Dim ishio cael eu rheoli o dde Cymru) ac eithrio

(3) Gogledd Orllewin Cymru (Dim ishio cael eu rheoli gan hwntws na Scousers ), ac eithrio

(4) Sir Fon (ddim ishio neb reoli nhw, dim hyd yn oed eu hunain) ac eithrio

(5) Caergybi (tu hwnt i reolaeth unrhyw un)

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2011 8:51 pm
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:(1) De Cymru

(2) Gogledd Cymru (Dim ishio cael eu rheoli o dde Cymru) ac eithrio

(3) Gogledd Orllewin Cymru (Dim ishio cael eu rheoli gan hwntws na Scousers ), ac eithrio

(4) Sir Fon (ddim ishio neb reoli nhw, dim hyd yn oed eu hunain) ac eithrio

(5) Caergybi (tu hwnt i reolaeth unrhyw un)


Ac un Dinefwr i reoli drostynt.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2011 6:29 pm
gan dewi_o
Blaenau Gwent a Thorfaen i uno

Merthyr i uno gyda Chwm Cynon

Bro Morganwg i uno gyda Rhondda a Taf

Bydd dwy sir yn llai wedyn.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2011 7:19 pm
gan osian
dewi_o a ddywedodd:Blaenau Gwent a Thorfaen i uno

Merthyr i uno gyda Chwm Cynon

Bro Morganwg i uno gyda Rhondda a Taf

Bydd dwy sir yn llai wedyn.

Wti'n deud hynny ar sail poblogaeth? Ma'n ymddangos bydda' Rhondda Taf Morgannwg yn goblyn o sir fawr

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2011 9:32 pm
gan Macsen
Wedi bod yn porri dros fap o Gymru gyda siswrn a'u torri nhw i lawr o 22 cyngor i naw.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2011 11:46 pm
gan osian
Macsen a ddywedodd:Wedi bod yn porri dros fap o Gymru gyda siswrn a'u torri nhw i lawr o 22 cyngor i naw.

Difyr. Debyg byddai symud Islwyn i Gwent yn adfer rhywfaint o falans.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Iau 01 Rhag 2011 6:19 am
gan dewi_o
osian a ddywedodd:
dewi_o a ddywedodd:Blaenau Gwent a Thorfaen i uno

Merthyr i uno gyda Chwm Cynon

Bro Morganwg i uno gyda Rhondda a Taf

Bydd dwy sir yn llai wedyn.

Wti'n deud hynny ar sail poblogaeth? Ma'n ymddangos bydda' Rhondda Taf Morgannwg yn goblyn o sir fawr


Ydw i bwynt. Rwy'n derbyn dy safbwynt o Fro Morganwg ond mae'r Fro , Merthyr, Torfaen a Blaenau Gwent yn rhy fach i redeg yn effeithiol.

Re: Cynghorau Cymru - faint sydd eu hangen?

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2011 9:39 am
gan Seonaidh/Sioni
Cofiwch nad mater o rifyddeg ydy hyn. Efallai fyddai cyngor enfawr (yn nhermau poblogaeth) fel "Morgannwg" yn syniad da, gan fod tebygrwydd sefyllfa yno. Ar y llall law, byddai "Mon" yn addas hefyd, er ised ei phoblogaeth.