Yn ol y son, mae nhw am leihau nifer y cynghorwyr ym Mon o 40 i 30, ac yr oedd yn sibrwd o ail-uno Cyngor Mon efo'r tir mawr.
Gwnaeth hyn i fi feddwl am faint o gynghorau dylid fod yng Nghyrmu. Ar hyn o bryd mae 22 o gynghorau "sir", yn gweithredu ar gyfer poblogaetth o ryw 2.8m - un cyngor i bob i 127,000 o bobl ar gyfartaledd (dim on 69,000 sy'n byw yn sir Fon, dwi'n meddwl).
Mae pob cyngor yn gyfrifol am addysg, lonydd, cynllunio, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a sbwriel yn eu sir penodol. (Ar ben hyn mae tri chyngor yn rhedeg y parciau cenedlaethol sy'n delio efo' materion cyffelby.)
Yn fy swydd cyn yr un presennol, ro'n i'n gweithio i gyngor yn Lloegr. Fel rhai Cymru, mae'r cyngor hwnnw'n gyfrifol am bopeth yn yr ardal (does yn a ddim cyngor sir yn uwch i fyny). Roedd yna 90 o gynghorwyr a phoblogaeth yn ol cyfrifiad 2001 oedd jyst o dan 300,000.
Fel tipyn o anorac llywodraeth leol, ac fel rhywun sy'n meddwl fod Cymru angen cyfundrefnau cryf i lwyddo, dydio ddim yn gneud synnwyr i mi cael y trefniant presennol.
Be da chi'n feddwl?